Cynhadledd Llafur: Andy Burnham i drafod diwygio pensiynau a gofal cymdeithasol

Andy Burnham

Fe fydd Andy Burnham yn addo mynd i'r afael â materion y mae gwleidyddion "fel arfer yn eu hosgoi" yn ei araith gyntaf fel arweinydd yng nghynhadledd y Blaid Lafur ddydd Mawrth.

Mae dyfalu cynyddol y gallai ddiwygio'r polisi "clo triphlyg" ar bensiynau er mwyn ariannu gofal cymdeithasol.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog ddefnyddio ei araith yn Lerpwl yn ddiweddarach i amlinellu cyfeiriad newydd ar gyfer "Prydain lle mae pobl yn teimlo bod y wlad yn eu cefnogi unwaith eto".

Bydd yn rhoi mwy o fanylion am ei gynlluniau ar gyfer gofal cymdeithasol am ddim yn Lloegr, mesurau i ostwng diweithdra ymysg pobl ifanc a rheolaeth gyhoeddus dros ynni, gan addo cynnal "sgwrs onest" am faterion anodd.

"Gobaith unwaith eto" yw slogan y gynhadledd, ac mae disgwyl y bydd Mr Burnham yn dweud wrth aelodau'r blaid bod "gobaith yn deillio o onestrwydd ac o ddweud y pethau y mae gwleidyddion fel arfer yn eu hosgoi".

Rhwydwaith ynni newydd

Bydd hefyd yn cyhoeddi ei gynllun i sefydlu rhwydwaith ynni Great British Grid newydd fydd mewn dwylo cyhoeddus, mewn ymgais i ostwng costau ynni yn y DU i lefelau tebyg i rai gwledydd Ewrop o fewn degawd.

Mae'n debyg y bydd gofal cymdeithasol yn LLoegr yn rhan amlwg o'r araith, gyda'r Prif Weinidog yn awgrymu y byddai'n amlinellu mwy o fanylion am ei gynlluniau i ariannu diwygio'r system.

Mae Mr Burnham wedi dweud o'r blaen ei fod yn bwriadu defnyddio unrhyw "gyfalaf gwleidyddol" sydd ganddo i ddiwygio gofal cymdeithasol, mater y ceisiodd fynd i'r afael ag ef pan oedd yn Ysgrifennydd Iechyd o dan Gordon Brown.

Cafodd y cynigion hynny, a fyddai wedi gweld gofal yn Lloegr yn cael ei ariannu drwy dreth ar ystadau, eu condemnio gan wrthwynebwyr fel "treth marwolaeth", a daethant i ben yn dilyn y Blaid Lafur yn colli etholiad 2010.

Ond ni fydd newid yn digwydd cyn yr etholiad nesaf.

Mae'r Farwnes Louise Casey eto i gyhoeddi canfyddiadau ei hadolygiad o ofal cymdeithasol, ac mae Mr Burnham wedi awgrymu y byddai'n cyflwyno ei gynigion i'r cyhoedd ym maniffesto nesaf y Blaid Lafur.

Y clo triphlyg

Mae gweinidogion wedi gwrthod cadarnhau a fydd ymrwymiad y Blaid Lafur i'r "clo triphlyg" - sy'n gwarantu y bydd pensiynau'n codi yn unol â chwyddiant, 2.5%, neu gyfartaledd enillion, pa un bynnag sy'n cynrychioli'r cynnydd mwyaf - yn rhan o'r maniffesto hwnnw.

Dywedodd Cadeirydd y Blaid Geidwadol, Kevin Hollinrake, nad oedd gobaith Mr Burnham yn “strategaeth” wleidyddol.

Dywedodd: “Os yw Andy Burnham am fod yn onest â phobl Prydain, rhaid iddo gyfaddef bod codiadau treth Llafur wedi difrodi busnesau, dinistrio swyddi a niweidio cyllid teuluoedd yn ddifrifol - a hyn oll er mwyn i Lafur allu rhoi mwy o daliadau lles i’r rhai sy’n dibynnu ar fudd-daliadau.

“Yfory (dydd Mawrth), mae gan Andy Burnham gyfle i ddangos a oes ganddo’r gwytnwch i leihau’r bil lles ac i sefyll yn erbyn ei Aelodau Seneddol sy’n obsesiynol ynglŷn â lles. 

"Bydd methu â gwneud hynny yn profi mai dim ond ceisio plesio pobl y mae o, ac na all wneud penderfyniadau er budd y genedl, a bod Llafur yn wir yn blaid lles.”

Dywedodd llefarydd Trysorlys Reform UK, Robert Jenrick: “Mae’n gwbl warthus bod Burnham yn ystyried cael gwared ar y ‘clo triphlyg’ tra’n gwastraffu degau o biliynau o bunnoedd ar nonsens.

“Yn hytrach, dylai dorri’n sylweddol ar y bil budd-daliadau, cymorth tramor a chymorthdaliadau ‘sero net’. Mae’n deg ein bod yn cefnogi’r rhai sydd wedi gweithio’n galed trwy gydol eu bywydau."

 
 
 
 
 
 


 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.