Arestio nifer o ddynion wrth i bobl gael eu symud o’u tai ger safle yr awyrlu yn Lloegr
Arestio nifer o ddynion wrth i bobl gael eu symud o’u tai ger safle yr awyrlu yn Lloegr
Mae pump o ddynion wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â ffrwydron a therfysgaeth wedi iddyn nhw yrru tuag at un o ganolfannau'r Awyrlu yn Lloegr.
Fe wnaeth tri cherbyd "amheus" yn teithio tuag RAF Fairford yn Sir Gaerloyw gael eu hadrodd i'r heddlu am tua 12:45 ddydd Sadwrn.
Cafodd y dynion eu harestio gan swyddogion arfog yn ardal Whelford o dan amheuaeth o gyflawni troseddau o dan y Ddeddf Ffrwydron.
Cafodd eu harestio yn ddiweddarach hefyd o dan amheuaeth o baratoi gweithred derfysgol.
Fe wnaeth pobl gael eu symud o tua 85 o gartrefi ger RAF Fairford, sy'n cael ei ddefnyddio gan Awyrlu'r Unol Daleithiau.
Mae presenoldeb sylweddol gan y gwasanaethau brys yn yr ardal, gan gynnwys Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus (HART).
Dywedodd Heddlu Sir Gaerloyw: "Mae pobl yn cael eu symud o nifer o eiddo ar hyn o bryd yn ardal Whelford yn dilyn datganiad o ddigwyddiad difrifol.
"Daw hyn yn dilyn arestio nifer o ddynion ar amheuaeth o droseddau o dan y Ddeddf Ffrwydron.
"Mae tîm arbenigol y Fyddin ar gyfer cael gwared o ffrwydron yn archwilio nifer o gerbydau ar hyn o bryd."
Mae'r trigolion lleol yn cael eu symud i ganolfan hamdden gerllaw yn ôl y llu.
Ychwanegodd yr heddlu: "Mae llinell ddiogelwch ar waith ar hyn o bryd ond hoffem dawelu meddwl pobl ein bod yn credu bod y digwyddiad hwn wedi ei gyfyngu.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid ac yn gweithredu'r cynlluniau sydd wedi'u paratoi a'u hymarfer yn dda."
