Noah Woods wedi 'mynd drwy fwlch mewn ffens' cyn cael ei ddarganfod yn farw mewn llyn
Mae cwest wedi clywed fod bachgen tair oed a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn llyn wedi gadael maes chwarae drwy "fwlch mewn ffens".
Fe gafodd Noah Woods ei wahanu gan aelod o'r teulu ar ôl ymweld â maes chwarae Merriam Close yn Brantham ar 15 Medi.
Ymunodd tua 1,300 o aelodau’r cyhoedd â’r chwilio am y bachgen bach. Dywedodd yr heddlu nad oedd Noah yn gallu siarad â’i fod yn rhannol fyddar.
Dros 24 awr ar ôl iddo ddiflannu, cadarnhaodd yr heddlu ar 16 Medi fod timau deifio wedi dod o hyd i gorff plentyn mewn llyn.
Cafodd cwest i farwolaeth Noah ei agor a'i ohirio yn Ipswich ddydd Gwener.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Connick wrth y gwrandawiad fod Noah yn cael ei "warchod gan berthynas ac fod hyn yn rhan o drefn arferol Noah" ar 15 Medi.
Ychwanegodd eu bod wedi cerdded i faes chwarae a bod deunydd CCTV o'r parc yn dangos "Noah yn chwarae gyda'i berthynas".
Dywedodd Mr Connick fod yr aelod yma o'r teulu, nad oedd yn y gwrandawiad, wedi darparu datganiad i'r heddlu.
Ychwanegodd y swyddog fod Noah "wedi gadael y maes chwarae drwy fwlch yn y ffens oedd yn arwain at ardd goffa, lle gadawodd trwy giât agored".
Fe aeth Noah yna i gyfeiriad Llyn Decoy ac roedd yn cael ei ddilyn yn agos gan ei berthynas, meddai.
Yn ôl Mr Connick, fe wnaeth yr aelod o'r teulu "weiddi ar Noah" ond ar ôl 200 medr, nid oedd modd gweld y bachgen bach.
Cofnododd archwiliad post-mortem mewn ysbyty yng Nghaergrawnt fod angen ymchwiliad pellach i benderfynu ar achos meddygol ei farwolaeth, meddai Mr Connick.
Dywedodd yr is grwner dros Suffolk Jyoti Gill yn y gwrandawiad: "Hoffwn gydymdeimlo o waelod calon â theulu, ffrindiau a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth Noah."
Yr wythnos diwethaf, fe ddisgrifiodd tad Noah, Rhys Woods, ei fab fel y “bachgen bach mwyaf annwyl a diniwed, heb ddim ond cariad i’w roi”.
Dywedodd y bydd Noah yn cael ei garu am byth ac na fydd byth yn cael ei anghofio.
Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn fraint bod yn rhieni i ti a gallu llenwi’r tair blynedd fer roeddet ti gyda ni â chymaint o gariad.”