Angen i Lywodraeth Cymru ddechrau paratoi at annibyniaeth medd Cadeirydd YesCymru

26/09/2026

Angen i Lywodraeth Cymru ddechrau paratoi at annibyniaeth medd Cadeirydd YesCymru

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau paratoi ar gyfer y posibilrwydd o Gymru annibynnol, meddai Cadeirydd YesCymru.

Dywedodd Rob Hughes wrth Newyddion S4C y byddai'n disgwyl i unrhyw lywodraeth ddechrau paratoi os yw annibyniaeth yn "bosib" ac "ar y gorwel".

Daw ei sylwadau cyn i YesCymru gynnal gorymdaith dros annibyniaeth yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, gyda'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth ymhlith y siaradwyr yno.

Daw'r orymdaith ddydd Sadwrn bythefnos ar ôl i ganlyniadau arolwg barn gan Survation, a gomisiynwyd gan YesCymru, gael ei chyhoeddi.

Roedd yr arolwg yn nodi y byddai 32% o'r rhai a oedd yn debygol o bleidleisio mewn refferendwm yn pleidleisio dros annibyniaeth, o gymharu â 68% yn erbyn.

Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein ymhlith 1,023 o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru rhwng 13 a 24 Awst.

Pan ofynnwyd beth oedd y rhwystr mwyaf i Gymru i ddod yn annibynnol, fe nododd 46% bryderon am yr economi.

"'Da ni'n edrych ar rywbeth 'dan ni'n credu bod modd ei wireddu yn 2032," meddai Rob Hughes.

"Baswn i'n disgwyl i unrhyw lywodraeth, sy'n gwybod bod hyn yn bosib, ar y gorwel, i ddechrau gwneud paratoadau [ar gyfer annibyniaeth], i sicrhau y gorau i bobl Cymru."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cefnogi trafodaeth barhaus a gwybodus am ein dyfodol cyfansoddiadol hirdymor."

Image
Yes Cymru protest
Dywedodd Rob Hughes nad yw nifer y bobl sy'n bresennol yn y gorymdeithiau yn fesur o'u llwyddiant

Ym mis Awst, fe gyhoeddodd YesCymru ymgyrch i sicrhau refferendwm ar annibyniaeth yn 2032, gyda'r mudiad yn dweud y bydd yn canolbwyntio ar gynyddu cefnogaeth ac ateb cwestiynau ymarferol ynglŷn â dyfodol Cymru.

'Tipyn o beth'

Dywedodd Mr Hughes fod presenoldeb y Prif Weinidog yn y rali ddydd Sadwrn yn arwyddocaol i'r mudiad.

"Mae'n dipyn o beth bod gennym ni Brif Weinidog yn siarad yn yr orymdaith.

"'Dyn ni wedi trio bod yn fudiad proffesiynol ac yn fudiad sy'n fodlon cwrdd â siarad â phobl.

"'Dyn ni'n gobeithio erbyn hyn mai dyna mae pobl yn meddwl am YesCymru, mudiad o ddifri' sy'n fodlon trafod annibyniaeth."

Ychwanegodd: "Mae'r ffaith bod Rhun ap Iorwerth yn mynychu yn dangos mai dyna sut mae YesCymru yn edrych ar hyn o bryd, fel mudiad sy'n haeddu sylw a haeddu presenoldeb yng Nghymru."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth wrth y dorf fod Cymru “yn barod i lunio ei dyfodol ei hun".

Gan ddyfynnu geiriau'r actor Matthew Rhys dywedodd Mr ap Iorwerth: “Mae Cymru yn dangos ymdeimlad newydd o hyder fel erioed o'r blaen.

"Byddaf innau hefyd yn defnyddio ac yn dyfynnu geiriau Matthew Rhys – ein cenedl fach a nerthol, fel y'i gelwodd ef.

"Wel, mae'r genedl fach a nerthol hon yn barod i lunio ei dyfodol ei hun.”

'Cyfnodau anodd'

Dywedodd Mr Hughes wrth Newyddion S4C fod gan YesCymru 6,000 o aelodau bellach, a bod nifer yr aelodau wedi dechrau tyfu eto wedi blynyddoedd "anodd" i'r mudiad.

"Dydy e ddim yn gyfrinach bod YesCymru wedi cael cyfnodau anodd," meddai.

"So, beth sydd wedi bod yn digwydd 'da ni dros y cyfnod diwethaf yw trio sicrhau bod ni'n adeiladu mudiad sy'n addas i wthio annibyniaeth.

"Mae'n meddwl wedyn bod cysondeb gyda ni, mae'n meddwl bod undod gyda ni hefyd, ac mae'n meddwl bod ni'n trio perswadio pobl i gefnogi'r achos.

"Mae twf yn nifer yr aelodau am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, ac rydym mewn sefyllfa ariannol dda."

Roedd gan YesCymru tua 18,000 o aelodau ym mis Mawrth 2021, meddai'r mudiad.

Image
Gorymdaith YesCymru Aberystwyth 2026
Gorymdaith dros annibyniaeth YesCymru yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 

'Llwybr datganoli'

Dywedodd Mr Hughes fod YesCymru wedi cwrdd â Llywodraeth Cymru, ond bod gwahaniaeth rhyngddynt ynglŷn â'r ffordd ymlaen i Gymru.

Fe wnaeth Mr Hughes gyfarfod â'r Gweinidog dros Effeithiolrwydd y Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, ym mis Gorffennaf.

"'Dan ni wedi cwrdd â'r Llywodraeth, a'r gwahaniaeth mwyaf rhyngddom ni ar hyn o bryd, fi'n credu, yw bod Llywodraeth Cymru yn credu mewn llwybr datganoli, a 'dyn ni ddim," meddai.

"Y rheswm 'dyn ni ddim yn credu mewn llwybr datganoli pellach yw bod pethau fel Ystad y Goron a phŵer dros reilffyrdd yng Nghymru, mae rheiny yn hawdd i ddwyn.

"A'r ffaith bod rheiny ddim wedi cael eu datganoli yn dangos bod 'na ddim awydd wedyn yn San Steffan i ddatganoli pŵer ymhellach i Gymru."

Yr economi

Ychwanegodd mai'r economi fydd un o brif feysydd gwaith YesCymru.

"Heb os nac oni bai, yr economi yw'r ofn mwyaf.

"Mae grŵp o bobl sydd angen eu darbwyllo ar hynny, bod Cymru yn gallu fforddio annibyniaeth, felly bydd gwaith ni dros y flwyddyn nesaf yn edrych ar yr economi yng Nghymru a gweld sut mae gwledydd eraill o'r un faint wedi tyfu eu heconomi nhw.

"Byddwn ni'n defnyddio arbenigwyr ac economegwyr i ddangos bod Cymru yn gallu fforddio bod yn annibynnol. Dydy e ddim yn mynd i fod yn waith hawdd, ond 'dan ni wedi cysylltu gyda sawl person yn barod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r llywodraeth newydd hon yn uchelgeisiol dros Gymru, a byddwn yn parhau i ddadlau’n gyson er mwyn sicrhau bod ein cenedl yn gallu cyrraedd ei llawn botensial gyda hyder. Rydym eisiau i bawb gael dweud eu dweud.

“Rydym yn cefnogi trafodaeth barhaus a gwybodus am ein dyfodol cyfansoddiadol hirdymor, ac rydym yn sefydlu Comisiwn Cenedlaethol i helpu i arwain y drafodaeth honno.

“Ein blaenoriaeth gyntaf yw sicrhau’r buddsoddiad cywir, yn ogystal â phwerau cyllidol a chyfansoddiadol gan San Steffan, fydd yn gallu gwella bywydau pobl Cymru ar unwaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.