Sir Gâr: Sefyllfa ariannol ysgolion yn 'ddifrifol' ac 'anghynaladwy'
Mae sefyllfa ariannol ysgolion Sir Gaerfyrddin yn "ddifrifol" ac yn "anghynaladwy" yn ôl yr aelod cabinet sydd yn gyfrifol am adnoddau.
Clywodd cyfarfod o gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin bod ysgolion y sir mewn perygl o orwario £6.9m eleni ar ben diffyg ariannol o £9.6m sydd eisoes yn bodoli.
Mi allai hynny olygu bwlch ariannol o £16.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ac mae swyddogion y cyngor yn rhybuddio nad oes modd "gorbwysleisio difrifoldeb a natur frys y sefyllfa."
Mae'r Cynghorydd Alun Lenny yn dweud mai "tan-ariannu" cynghorau sydd yn gyfrifol am broblemau ariannol ysgolion.
Mae disgwyl i ddwy o ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin gofnodi diffyg cyllidebol (deficit) o bron i £3 miliwn yr un erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Yn ôl ffigyrau aeth gerbron y cabinet fore Llun, mae disgwyl y bydd cyfanswm diffyg ariannol Ysgol Bro Dinefwr wedi cyrraedd £2.98m. Mae disgwyl iddi orwario £873,534 eleni.
£2.8m yw'r ffigwr i Ysgol Gyfun Emlyn yng Nghastellnewydd Emlyn ac mae disgwyl iddi orwario £628,144.
Mae'r bwlch ariannol wedi datblygu dros gyfnod o rai blynyddoedd ac mae'r arolygwr ysgolion, Estyn, wedi nodi pryderon yn y gorffennol am sefyllfa ariannol y ddwy ysgol.
Mae disgwyl i Ysgol Myrddin, sydd yn ysgol gynradd yn nhref Caerfyrddin, orwario £158,100 eleni ac mae cyfanswm y diffyg ariannol yn debygol o godi i £821,687.
'Anodd dros ben'
Yn dilyn y cyfarfod yn neuadd y Sir, fe hawliodd y Cynghorydd Alun Lenny nad oedd cynghorau fel Sir Gâr wedi cael arian digonol ers blynyddoedd.
"Mae'r Cyngor hwn £150m ar ein colled o gymharu â deg mlynedd nôl am ein bod ni yn cael ein tan-ariannu. Dyna'r gwirionedd. Dyna wraidd y broblem.
"Yn yr ysgolion, mae'n sefyllfa sydd wedi datblygu dros gwpl o flynyddoedd. Dw i wedi erfyn ar gyrff llywodraethol a phenaethiaid i edrych ar eu cyllidebau ac mae'r rhan fwyaf wedi ac yn ffindio hi yn anodd dros ben.
"Mae yna eraill ddylai fod yn gwneud mwy, efallai. Da ni ddim yn cael digon o arian gan lywodraeth ganolog, dyna'r gwirionedd."
Pan heriwyd y Cynghorydd Lenny am ddifrifoldeb y sefyllfa, mynnodd bod y cyngor yn cynnig cymorth i gyrff llywodraethol.
"Mae yna amgylchiadau arbennig yn y ddwy ysgol yna ac fe wnaethon ni gyflogi ymgynghorydd arbennig i fynd i roi cyngor iddyn nhw ond mae fel troi tancyr olew rownd.
"Chi'n dechrau cael llwyddiant ond mae'n mynd i gymryd sbel i fynd i'r afael â'r gorwariant yna.
"Ni'n cynghori pob corff llywodraethol i wahodd swyddogion addysg i roi cyngor iddyn nhw ond mae hynny yn digwydd yn barod ond efallai bydd rhaid dwysau hynny oherwydd difrifoldeb y sefyllfa."
'Angen ymyraethau sylweddol'
Mae 53 o'r 94 o ysgolion cynradd dan ofal y cyngor yn debygol o gofnodi diffyg ariannol yn ôl ystadegau'r cyngor ym Mehefin eleni.
Dim ond tair o'r 12 ysgol uwchradd sydd heb ddiffyg ariannol.
Dywedodd James Durbridge, Pennaeth Ysgol Dyffryn Aman a Chadeirydd Cymdeithas Prifathrawon Sir Gaerfyrddin: "Mae'r darlun yn un tywyll ac mae'r sefyllfa yn hynod o heriol.
"Mae yna bethau sydd yn gwneud pethau yn anodd yn Sir Gâr ond hefyd ar draws Cymru gyfan. Ni wedi gweld heriau o ran anghenion dysgu ychwanegol ond hefyd pethau fel Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
"Mae pawb yn cytuno gyda'r egwyddor tu ôl iddo ond mae'n creu heriau o ran cyllideb.
"Mae angen ymyraethau sylweddol i wella safonau ac mae'n rhaid buddsoddi yn sylweddol.
"Ni wedi gweld cynnydd sylweddol o ran anghenion yn Sir Gâr ond hefyd ar draws Cymru gyfan a dyw'r buddsoddiad ddim yn dod o lywodraeth Cymru fel ymateb i'r anghenion 'ma."
Mewn ysgolion dwyieithog fel Dyffryn Aman a Bro Dinefwr, mae pynciau yn aml yn gorfod cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, sydd yn cynyddu'r gost o addysgu.
Yn ôl James Durbridge, mae yna ostyngiad o 1,600 wedi bod yn nifer y disgyblion yn Sir Gaerfyrddin dros y pum mlynedd diwethaf sydd yn cyfateb i tua £8m mewn cyllid sydd wedi cael ei golli.
Mae'n cytuno bod angen ailystyried faint o arian sydd ar gael i ysgolion ac mae'n dweud bod hyn yn "broblem genedlaethol."
Dywedodd yr ymgynghorydd addysg Geraint Rees, sydd yn gyn bennaeth, wrth Newyddion S4C, nad oedd yr heriau ariannol yn "unigryw" i Sir Gâr a'i fod yn batrwm sy'n debygol o gael ei ailadrodd ar draws Cymru wrth i arian wrth gefn ddiflannu mewn ysgolion.
"Mae hyn yn rhybudd cynnar yn y system. Beth sydd wedi achosi hyn yw sawl peth yn dod at ei gilydd.
"Dyw'r gwariant fformiwla ddim cweit wedi cadw lan gyda'r newid mewn cyflogau, y newid ym maint y staffio sydd angen i ofalu am y math o blant sydd gyda ni yn y system.
"Costau ynni a'r siociau yn y system honno. I'r siroedd, mae yna newid wedi bod mewn costau trafnidiaeth wedi creu effaith sylweddol i'r gyllideb drafnidiaeth ac addysg. Mae'r cyfan wedi dod ar yr un pryd ac mae'r llywodraeth â thipyn llai o arian trethi yn dod mewn na phetasai ein heconomi ni mewn sefyllfa wahanol."
Mae'n cytuno ei bod hi'n fwy costus i ddarparu pynciau mewn dwy iaith yn yr ysgolion dwyieithog.
"Mae trio rhedeg ysgol lle mae ysgolion lan i'r chweched dosbarth, ble mae rhai yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac eraill yn astudio trwy gyfrwng y Saesneg yn fwy costus ac mae hynny wedi creu baich ar awdurdodau lleol."
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n cydnabod y pwysau ariannol y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu hwynebu.
"Mae’r penderfyniadau ar y lefelau cyllid sydd ar gael i ysgolion ac i wasanaethau eraill yn cael eu gwneud gan bob awdurdod fel rhan o’r broses gyffredinol o osod eu cyllideb a’r dreth gyngor.
"Rydyn ni’n cefnogi awdurdodau lleol i weithio gyda’u hysgolion i reoli eu sefyllfaoedd cyllidebol yn hyblyg yn yr amgylchiadau sydd ohoni.”
Mae swyddogion Cyngor Sir Gâr wedi galw ar ysgolion, sydd â diffyg ariannol, i atal unrhyw wariant sydd ddim yn hanfodol ac adolygu cyllidebau ar frys.
Fe fydd bwrdd arbennig yn cael ei sefydlu i ymyrryd yn yr achosion ble mae'r problemau gwaethaf.
Dyma'r pum ysgol uwchradd a chynradd gyda'r diffyg ariannol mwyaf, yn ôl papurau'r cyngor:
Diffyg ariannol Ysgolion Uwchradd
Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo - £2,988,098
Ysgol Gyfun Emlyn, Castellnewydd Emlyn - 2,808,814
Ysgol Maes y Gwendraeth, Cefneithin - £1,976,455
Ysgol St John Lloyd, Llanelli £1,103,415
Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman - £650,171
Diffyg ariannol Ysgol Cynradd
Ysgol Myrddin, Caerfyrddin - £821,687
Ysgol Pentip - £456,685
Ysgol Bro Banw - £439,786
Ysgol Talacharn - £380,076
Ysgol Blaenau - £362,566
Mae swyddogion cyllid y cyngor yn rhybuddio bod nifer o ysgolion wedi gosod cyllidebau sydd yn uwch na'i lefelau ariannu unwaith eto eleni a "nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy."
Maen nhw yn galw am weithredu ar lefel ysgolion unigol i leihau gwariant. Mae gwariant ar anghenion dysgu ychwanegol yn un o'r rhesymau am y gorwariant yn ôl swyddogion Cyngor Sir Gâr. Mae yna alw hefyd am gynnydd pellach ar "resymoli" ysgolion.
Dyw'r broblem o ddiffygion cyllidebol ddim yn unigryw i ysgolion Sir Gâr.
Fe rybuddiodd Estyn yn gynharach eleni bod 393 o ysgolion - neu un mewn pedwar o ysgolion Cymru - yn wynebu diffyg ariannol oedd yn cyfateb i gyfanswm o £72m.