Dyn wedi ei gyhuddo wedi i fws gael ei gymryd a'i yrru i mewn i geir

Andy Smith/Telford Live
Bws Telford

Mae dyn wedi ei gyhuddo o gymryd bws a'i yrru i mewn i nifer o geir yn Telford nos Wener.

Mae Ali Balhad, 33, wedi ei gyhuddo o gymryd cerbyd o dan amgylchiadau gwaethygol (aggrevated), gyrru'n beryglus, lladrad, dwyn o siop, ymosod, ceisio achosi niwed corfforol difrifol, bygwth lladd a thri chyhuddiad o ddifrod troseddol.

Cafodd yr heddlu eu galw i Court Street ym Madeley am tua 18.37 yn dilyn adroddiadau bod gyrrwr bws wedi dioddef ymosodiad.

Yn ôl Heddlu Gorllewin Mercia, cafodd y gyrrwr ei daflu allan o'r bws cyn i'r cerbyd gael ei yrru ar hyd Park Way tuag at y Stryd Fawr.

Dywedodd yr heddlu fod y bws wedi cael ei yrru ar ochr anghywir y ffordd ac wedi taro nifer o gerbydau.

Cafodd swyddogion arfog eu hanfon i'r ardal a chafodd dyn ei arestio o fewn 10 munud i'r alwad gyntaf i'r heddlu.

Cafodd gyrrwr y bws driniaeth gan barafeddygon cyn cael ei gludo i'r ysbyty. Dywedodd yr heddlu nad oedd wedi dioddef anafiadau difrifol ac nad oedd unrhyw un arall wedi cael ei anafu.

Mae Mr Balhad wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Telford ddydd Llun.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu ei fod wedi bod yn ardal Telford ers tua wythnos.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Taigh Lannie ei fod yn deall y byddai'r digwyddiad wedi bod yn "frawychus" i bobl yn yr ardal.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd, teledu cylch cyfyng, ffôn symudol neu gloch drws o'r digwyddiad gysylltu â nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.