Gobeithio sicrhau bod Rhyddfrydwyr ‘ym mhob cornel o’r wlad’ ar ôl yr etholiadau lleol

Newyddion S4C 19/09/2026

Gobeithio sicrhau bod Rhyddfrydwyr ‘ym mhob cornel o’r wlad’ ar ôl yr etholiadau lleol

Ar drothwy cynhadledd y blaid mae arweinwydd y y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dweud ei bod yn canolbwyntio ar yr etholiadau lleol ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Jane Dodds ei bod yn gobeithio y bydd cynrychiolwyr “ym mhob cornel o’r wlad” wedi’r etholiadau ar Fai 6.

“'Dan ni isio sicrhau bod 'na bob, ym mhob cornel o Gymru mae 'na rhywun o'r Rhyddfrydwyr yn cynrychioli yr gymuned yna,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.

Roedd yn “drist ac yn siomedig” mai hi oedd unig gynrychiolydd y blaid o hyd yn Senedd Cymru wedi'r etholiad ym mis Mai eleni, meddai.

“A dw i'n drist iawn dros y bobl eraill oedd yn ei gobeithio cael i fewn i'r Senedd o'r Rhyddfrydwyr,” meddai.

“Ond mae'n rhaid i ni symud ymlaen ac edrych ar y dyfodol, a dyna beth dw i'n edrych ar.”

Ychwanegodd: “Ym, ac mae o am fod yn ddiddorol, a gweld yn union beth mae Plaid Cymru am wneud, yn enwedig dros tlodi plant.

“Dw i isio canolbwyntio ar hynny. Achos 'dan ni'n clywed falle bod nhw am torri yr gwasanaethau tuag at blant yn y Flying Start rhaglen, ac mae hynny'n poeni fi ofnadwy.”

Dywedodd serch hynny nad oedd Llywodraeth Cymru eto wedi bod mewn cyswllt i drafod y Gyllideb nesa, ond ei bod yn “gobeithio fydd hynny'n digwydd”.

“Wnes i ddim cefnogi cyllideb atodol achos oeddwn i'n gweld bod, y, na ddim gymaint o arian, er enghraifft, i'r gwasanaethau iechyd ac i wasanaethau gofal.

“Ond nawn ni weld. Dw i isio sicrhau bod 'na mwy arian yn mynd i fewn i dlodi plant ac i fewn i gwasanaethau, y, gofal hefyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.