Trump a Denmarc yn dod i gytundeb ar yr Ynys Las

Donald Trump

Mae Donald Trump wedi dweud ddydd Gwener fod yr Unol Daleithiau wedi dod i gytundeb â Denmarc ar ddyfodol yr Ynys Las. 

Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi bygwth cymryd rheolaeth o'r diriogaeth yn gynharach eleni, gan achosi gwrthdaro gyda gwledydd NATO yn Ewrop.

Yn ôl Trump, mae’r cytundeb newydd yn rhoi “rheolaeth barhaol” i’r Unol Daleithiau dros ddiogelwch yr Ynys Las ac yn gwahardd unrhyw elyn i’r Unol Daleithiau rhag cael presenoldeb milwrol ar yr ynys.

“Mae Unol Daleithiau America wedi dod i Gytundeb â Theyrnas Denmarc a’r Ynys Las sy’n rhoi rheolaeth barhaol i’r Unol Daleithiau dros ddiogelwch, a phob angen arall, yn yr Ynys Las, gan fynd i’r afael yn llwyr â’n HOLL bryderon niferus,” Trump mewn neges ar Truth Social.

“Ni fydd UNRHYW GOST i’r Unol Daleithiau!” Aeth ymlaen i alw’r trefniant yn “Gytundeb ‘Am Oes Diderfyn’”.

“Yn ogystal, o hyn ymlaen, ni all unrhyw elyn i’r Unol Daleithiau BYTH gael canolfan yn yr Ynys Las, cael presenoldeb milwrol yn yr Ynys Las, na gwneud buddsoddiadau sensitif yn yr Ynys Las, heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol,” meddai Trump.

Ychwanegodd y byddai’r Unol Daleithiau yn “dechrau ar unwaith” ar sefydlu “presenoldeb milwrol mawr” eu hunain. 

Byddent hefyd yn gweithio gyda phobl yr Ynys Las, sy’n diriogaeth Ddenmarc, ar “ei datblygu ac adeiladu yno”.

Mae disgwyl i’r Unol Daleithiau, yr Ynys Las a Denmarc lofnodi cytundeb ar “gryfhau diogelwch yn yr Arctig a rhanbarth Gogledd yr Iwerydd” yr wythnos nesaf. 

Bydd hynny yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yn ôl datganiad gan swyddfa prif weinidog Denmarc.

“Rwy’n falch ein bod ar fin dod i gytundeb gwych i’r Ynys Las, Teyrnas Denmarc a’r Unol Daleithiau,” meddai Prif Weinidog Denmarc, Mette Frederiksen. 

Ychwanegodd y byddai’r cytundeb yn “wych i NATO ac Ewrop hefyd”.

Dywedodd hefyd fod y cytundeb yn “cydnabod sofraniaeth a chyfanrwydd tiriogaethol y Deyrnas a hawl pobl yr Ynys Las i hunanbenderfyniad”.

Dywedodd Prif Weinidog yr Ynys Las, Jens-Frederik Nielsen, fod “y cytundeb yn cydnabod buddiannau’r Ynys Las a’n lle mewn cydweithredu rhyngwladol”.

Ychwanegodd: “Mae o fudd i ni i gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.