Esgob newydd Bangor yn dechrau ei rôl yn swyddogol
Bydd esgob newydd Bangor yn dechrau ei rôl yn swyddogol ddydd Sadwrn wrth iddi gael ei sefydlu yn eglwys gadeiriol y ddinas.
Y Gwir Barchedig Dr Manon Ceridwen James yw’r 82ain person i ddwyn teitl Esgob Bangor, ac hi yw’r fenyw gyntaf i ddal y swydd.
Bydd y gwasanaeth i'w sefydlu yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Bangor am 14.00 brynhawn Sadwrn.
Cafodd ei chysegru’n esgob yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd ddydd Sadwrn diwethaf.
Yn wreiddiol o Nefyn ym Mhen Llŷn, mae’r Esgob Manon yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
Yn ystod y gwasanaeth cysegru, cyflwynwyd symbolau gweinidogaeth esgob iddi, gan gynnwys ei modrwy esgobol a’i chroes frest, sydd wedi eu haddurno â symbolau yn cynrychioli Nefyn, Ynys Enlli a'i hardal enedigol ehangach.
Cafodd yr Esgob Manon hordeinio’n ddiacon yn 1994 ac, yn 1997, roedd hi ymhlith y menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriad yn Esgobaeth Bangor.
Mae hi wedi gweithio fel offeiriad plwyf yn esgobaethau Bangor a Llanelwy, ac wedi gweithio ym meysydd hyfforddiant, addysg a galwedigaethau.
Rhwng 2018 a 2025, roedd hi’n gyfrifol am hyfforddi pobl oedd yn paratoi i fod yn weinidogion yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd.
Cyn dod yn Esgob, roedd hi’n Ddeon ar Eglwys Gadeiriol Bangor.
Cyfnod anodd i’r esgobaeth
Mae’r Esgob Manon yn dechrau ei swydd ar ôl cyfnod anodd i Esgobaeth Bangor, gyda'i rhagflaenydd Andrew John ymddeol yn sydyn fel Archesgob Cymru ym mis Mehefin y llynedd, ac yna fel Esgob Bangor ym mis Awst.
Daeth ei ymddeoliad ar ôl adroddiadau am gamymddwyn a gwendidau llywodraethiant a diogelu yng nghadeirlan y ddinas. Does dim awgrym bod Andrew John ei hun wedi camymddwyn.
Ym mis Chwefror, dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann, na fyddai hi’n "bwrw ymlaen" â'r broses o benodi esgob dros dro ar gyfer yr esgobaeth.
Yn hytrach, penderfynwyd dechrau’r broses o’r newydd i benodi esgob parhaol.
Wrth hysbysebu’r swydd, dywedodd yr Eglwys yng Nghymru fod yr esgobaeth wedi "bod drwy’r felin" dros y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd hefyd fod angen i’r esgob newydd helpu’r esgobaeth i edrych i’r dyfodol, tra’n gofalu am bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau.
Heriau ariannol
Mae Esgobaeth Bangor hefyd wedi wynebu heriau ariannol.
Ym mis Medi y llynedd, dywedodd llefarydd fod y sefydliad yn wynebu diffyg ariannol gweithredol o £300,000 erbyn diwedd 2025, a'u bod yn cynnal ymgynghoriad ar ddiswyddiadau posibl.
Yna fe gyhoeddwyd adroddiad ym mis Mawrth eleni oedd yn edrych ar waith dwy elusen o fewn yr Esgobaeth, sef Bwrdd Cyllid Esgobaethol Bangor (BCEB) ac Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor (YEB).
Roedd yr adroddiad hwnnw yn disgrifio "dirywiad llywodraethiant da a phrosesau priodol o fewn yr elusennau dros gyfnod o bum mlynedd neu fwy".
Daw'r adroddiad i'r casgliad y dylai'r elusennau hyn "fod wedi’u harwain gan leygwyr, a dylai’r BCEB fod wedi gweithredu fel gwrthbwysedd a chyfaill beirniadol i ffocws gweinidogaethol yr Esgob".
"Collwyd y tensiwn cadarnhaol hwnnw, a chollodd byrddau’r ymddiriedolwyr olwg ar eu swyddogaeth a’u pwysigrwydd," meddai awduron yr adroddiad, sef Jim Clifford OBE ac Alice Hulbert o Sonnet Advisory & Impact, arbenigwyr ym maes elusennau.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod "cynnydd sylweddol wedi’i wneud i unioni’r sefyllfa" erbyn hyn.
