Caernarfon: Arddangosfa'n taflu goleuni ar gyfraniaid y gymuned Sikh yng Nghymru
Mae artist o Gaerdydd yn gobeithio y bydd ei arddangosfa newydd yn taflu goleuni ar hanes a chyfraniad y gymuned Sikh yng Nghymru wrth iddi ymweld â Chaernarfon.
Dywedodd Harcharan Singh, 50 oed, fod ei dad-cu yn un o’r Sikhiaid cyntaf i ddod i Gaerdydd, ac yn un o sylfaenwyr gurdwara’r ddinas.
Penderfynodd y DJ a’r cynhyrchydd rhaglenni dogfen greu arddangosfa sy’n dathlu cyfraniad y gymuned yng Nghymru ar ôl dod o hyd i hen luniau o’i dad-cu yn cyflawni seva, sy’n golygu 'gwasanaeth anhunanol'.
Mae seva yn ymwneud â gweithredu i helpu eraill mewn amrywiaeth o ffyrdd, heb ddisgwyl unrhyw wobr na budd personol.
"Rwy’n meddwl bod llawer o bobl Sikh yn eithaf gostyngedig, felly dydyn nhw ddim wir yn brolio am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni, nac am y cyfraniadau neu’r ymrwymiadau maen nhw wedi’u gwneud," meddai Mr Singh wrth Newyddion S4C.
"Nes i sylweddoli nad hanes fy nhaid yn unig yw hwn, ond ei fod hefyd yn rhan o hanes Cymru, oherwydd rydyn ni’n rhan o wead cymdeithas Cymru."
Yn dilyn hynny, fe aeth Mr Singh, sy'n gweithio fel DJ mewn gwyliau ar draws y byd, ati i holi Sikhiaid eraill yn ei gymuned am hanes eu teuluoedd.
Dechreuodd gasglu straeon, lluniau a deunydd fideo archifol er mwyn cofnodi’r hanes hwnnw.
"Nes i benderfynu ei bod hi’n bwysig iawn tynnu sylw at hyn a rhoi gwybod i’r cyhoedd yn gyffredinol am y cyfraniad y mae pobl Sikh wedi’i wneud i gymdeithas Cymru," meddai.
Dechreuodd yr arddangosfa mewn amgueddfeydd yng Nghaerdydd, cyn cyrraedd Galeri yng Nghaernarfon y mis hwn.
Yn ôl Mr Singh, prif fwriad yr arddangosfa yw gwella dealltwriaeth pobl o’r gymuned leiafrifol.
"Rwy’n gobeithio y byddan nhw’n deall pa mor unigryw ydyn ni, sut rydyn ni wedi cyfrannu ac integreiddio o fewn cymdeithas Cymru, ond ar yr un pryd wedi llwyddo i gadw gafael ar ein hunaniaeth ein hunain," meddai.
Mae Mr Singh yn falch o’r hyn mae'n ei alw'n "dreftadaeth ddeuol".
"Rwy’n falch iawn o’m gwreiddiau Pwnjabi, ond rwy’n falch iawn o Gymru hefyd, sef y wlad lle rydw i’n byw," meddai.
"Dyma’r wlad rydw i’n byw ynddi, ac rydw i wrth fy modd â hi."
Yn ôl Mr Singh, mae’r arddangosfa eisoes yn meithrin ymdeimlad o falchder ymhlith y gymuned Sikh, yn enwedig ymhlith y genhedlaeth iau.
Ond mae hefyd yn helpu i addysgu pobl am rannau o’u hanes nad ydynt efallai wedi’u dysgu o’r blaen, meddai.
"Mae’n rhoi gwybod i bobl nad yw rhai o’r bobl iau yn gwybod yr hanes," meddai.
"Dydyn nhw ddim yn gwybod pwy oedd y Sikhiaid cyntaf a ddaeth yma, pwy sefydlodd y gurdwara, ac maen nhw’n dechrau sylweddoli, 'Iawn, rydyn ni yma oherwydd y bobl hynny.'"
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Galeri Caernarfon hyd at fis Tachwedd.
