Porthmadog: Plismon 'heb dorri safonau ymddygiad' wrth arestio dyn mewn gardd

Richards Wms / HGC

Mae panel disgyblu wedi dyfarnu nad oedd plismon wedi torri unrhyw safonau ymddygiad wrth geisio arestio dyn yng ngardd cartref ym Mhorthmadog yn 2023.

Roedd Mr Williams yn wynebu wyth honiad ei fod wedi torri’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol mewn perthynas â’r defnydd o rym, awdurdod, parch a chwrteisi, ac ymddygiad sy’n dwyn anfri.

Dros bedwar diwrnod, clywodd y panel dystiolaeth gan y Cwnstabl Williams a’r achwynydd, Steven Clark, a gafodd ei arestio ar ôl y digwyddiad yng ngardd eiddo ar ystâd Pensyflog ar 10 Mai 2023.

Dywedodd PC Williams yn ystod yr achos nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o’i le drwy ddyrnu Mr Clark naw gwaith wrth geisio cael rheolaeth arno er mwyn cwblhau’r arestiad.

Wrth roi ei ddyfarniad ddydd Gwener ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Evans fod y panel disgyblu wedi gwrthod yr honiadau bod PC Williams wedi defnyddio grym “anaddas neu anghymesur”.

“Daeth y panel i’r casgliad bod yr ergydion yn ddefnydd rhesymol o rym, dan yr amgylchiadau,” meddai.

Fe wnaeth y panel hefyd ddyfarnu bod y defnydd a wnaeth PC Williams a’i gydweithiwr, PC Einir Williams, o chwistrell i geisio tawelu Mr Clark yn “rhesymol a chymesur”.

“Nid oes unrhyw beth sy’n cyrraedd trothwy torri safonau, ac felly mae’r achos ar ben,” ychwanegodd Mr Evans.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymateb i’r dyfarniad gan ddweud ei fod “yn edrych ymlaen i PC Williams ddychwelyd i’w ddyletswyddau llawn”.

Cafodd fideo o’r digwyddiad ei rannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol ar y pryd.

Daw’r dyfarniad ar ôl i PC Williams gael ei gael yn ddieuog o ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol ac o dagu bwriadol, ar ddiwedd achos saith diwrnod yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Mai y llynedd.

Honiadau

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd yr heddwas ei fod yn 44 oed a’i fod wedi bod yn gweithio fel plismon ers 23 mlynedd.

Dywedodd ei fod wedi cael ei alw i ardd tŷ ar ystâd Pensyflog ym Mhorthmadog i gynorthwyo PC Einir Williams, ar ôl adroddiad yn honni bod Steven Clark wedi bod yn gyfrifol am drais domestig.

Cafodd clipiau fideo o gamerâu a oedd yn cael eu gwisgo ar gyrff y ddau heddwas yn ystod y digwyddiad eu dangos i’r panel.

Wrth roi tystiolaeth, roedd Mr Williams wedi gwadu ei fod wedi mynd dros ben llestri wrth geisio cael rheolaeth ar Mr Clark, a oedd yn ceisio eu “rhwystro” rhag ei arestio.

“Na – dwi ddim yn credu fy mod wedi gwneud unrhyw beth o’i le,” meddai’r heddwas.

Daeth y panel i’r casgliad nad oedd PC Williams wedi achosi poen i Mr Clark wrth droi ei arddwrn wrth geisio rhoi gefynnau arno.

Daeth y panel hefyd i’r casgliad, “er nad oedd yn ddelfrydol”, nad oedd PC Williams wedi defnyddio grym anghymesur drwy roi Mr Clark mewn ‘headlock’ er mwyn ceisio cael rheolaeth arno, ar ôl i Mr Clark ddisgyn ar ben PC Einir Williams.

Gan fod Mr Clark yn dal heb gydymffurfio â gorchmynion i aros yn llonydd er mwyn cwblhau’r arestiad, fe wnaeth PC Williams ei ddyrnu naw gwaith gyda’i law chwith, tra’n parhau i’w gadw mewn ‘headlock’.

Dywedodd Mr Evans fod “y lluniau o’r ergydion yn gwneud iddyn nhw ymddangos yn anghymesur” wrth eu gwylio ar eu pen eu hunain.

Dyfarnwyd eu bod yn ddefnydd rhesymol o rym dan yr amgylchiadau, gan fod PC Williams wedi rhoi’r gorau i’w ddyrnu unwaith iddo deimlo bod ymdrechion Mr Clark i wrthsefyll yr arestiad wedi gwanhau.

Ychwanegodd Mr Evans: “Nid oedd tystiolaeth ddigonol i awgrymu ei fod wedi colli ei dymer neu ei fod yn ceisio cosbi Mr Clark.”

Cafodd chwistrell ei defnyddio ddwywaith ar Mr Clark. Roedd y defnydd cyntaf i’w weld yn aneffeithiol ac roedd Mr Clark yn parhau i beidio â chydymffurfio ag ymdrechion y swyddogion i’w arestio.

Roedd “tystiolaeth annigonol” i awgrymu bod PC Williams wedi taflu neu ollwng Mr Clark wrth geisio ei roi yn fan yr heddlu, yn ôl y panel. Cafodd y defnydd pellach o’r chwistrell yn y fan ei ystyried yn “rhesymol” hefyd.

Ymateb

Wrth ymateb i’r dyfarniad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y dylid “cydnabod yr heriau mae swyddogion yn eu hwynebu wrth geisio cadw’r cyhoedd yn ddiogel”.

Dywedodd y llu: “Fe gawson ni gŵyn ym mis Mai 2023 mewn perthynas ag arestio dyn ym Mhorthmadog.

“Cyfeiriodd yr heddlu’r gŵyn, fel oedd yn ofynnol, at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), ac ar ôl ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron, cafodd PC Richard Williams ei gyhuddo gan yr IOPC o ymosod a thagu bwriadol.

“Cafwyd PC Williams yn ddieuog yn dilyn achos llys saith diwrnod o hyd yn Llys y Goron Caernarfon yn 2025.

“Yn dilyn hynny, cyfarwyddodd yr IOPC Heddlu Gogledd Cymru i gynnal gwrandawiad camymddwyn, lle roedd PC Williams yn wynebu wyth honiad o gamymddwyn difrifol.

“Heddiw, canfu’r panel nad oedd yr honiadau yn erbyn PC Williams wedi’u profi.”

Wrth siarad ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison: “Mae PC Williams wedi bod yn destun ymchwiliad troseddol dan arweiniad yr IOPC a phroses gamymddwyn, sydd bellach wedi dod i ben.

“Ar ôl iddo bellach gael ei glirio gan banel camymddwyn a adolygodd yr holl dystiolaeth, yn ogystal â chael ei ganfod yn ddieuog mewn achos yn Llys y Goron, mae’r mater hwn bellach ar ben. Rwy’n edrych ymlaen at weld PC Williams yn dychwelyd i’w ddyletswyddau llawn.

“Mae swyddogion yn wynebu trais a pherygl yn ddyddiol ac yn cyflawni eu dyletswyddau mewn amgylchiadau anodd.

“Mae’n gwbl briodol y dylai eu gweithredoedd fod yn destun craffu cyhoeddus, ond dylid cydnabod hefyd yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth geisio cadw’r cyhoedd yn ddiogel.”

Llun: Y Cwnstabl Richard Williams y tu allan i Lys y Goron Caernarfon yn ystod yr achos yn 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.