Dim sicrwydd y bydd cyfresi newydd Doctor Who yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru
Does dim sicrwydd y bydd cyfresi nesaf Doctor Who yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru wedi i'r BBC ddweud ei bod yn "ffafrio" hynny yn unig.
Mewn dogfen tendr i gwmnïoedd cynhyrchu a gafodd ei rhyddhau ddydd Iau, dywedodd y gorfforaeth mai Cymru yw’r ardal a ffafrir ar gyfer cyfres nesaf y rhaglen, ond nid yw’n amod sydd yn orfodol.
Bydd y tendr yn cynnwys “cytundeb i gynhyrchu Doctor Who mewn cyfres aml-bennod (gan gynnwys rhai arbennig) i’w darlledu yn 28/29 gyda’r opsiwn i ymestyn y cytundeb i gynhyrchu ail gyfres.”
"Dylai straeon gydbwyso ffuglen wyddonol uchelgeisiol â naratifau emosiynol cryf, gan sicrhau bod y sioe weledol bob amser wedi'i gwreiddio mewn cymeriadau a phrofiad dynol," meddai'r tendr.
Yn ôl y ddogfen, bydd yn rhaid i’r cynigion llwyddiannus gynhyrchu penodau "llawn pherygl a thensiwn, tra'n parhau i fod yn addas ar gyfer cynulleidfa deuluol eang."
Daw cyhoeddiad y tendr yn dilyn cyfnod o ansicrwydd am ddyfodol y cyfres, yn dilyn penderfyniad ar y cyd rhwng y BBC, y cynhyrchydd Russell T Davies a'r cwmni cynhyrchu Bad Wolf i beidio â darlledu rhaglen arbennig Doctor Who dros y Nadolig.
Mae’r gyfres wedi cael ei ffilmio yng Nghymru ers iddi ddychwelyd i'r sgrin yn 2005.
Cafodd y gyfres ei chynhyrchu yn stiwdios Porth y Rhath ym Mae Caerdydd o 2012, cyn symud i Wolf Studios Wales gerllaw ar ôl i Bad Wolf ddechrau cynhyrchu'r rhaglen.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn 2023, cyfrannodd Doctor Who tua £134.6 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru rhwng 2004 a 2021.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod ail-lansio'r gyfres yng Nghymru wedi bod yn sbardun pwysig i dwf y sector teledu a'r diwydiannau creadigol yn ne Cymru.