Honiad fod Charles yn 'orfoleddus' mewn galwad ffôn yn dilyn marwolaeth Diana

Charles a'r Iarll Spencer (PA)

Mae brawd y ddiweddar Dywysoges Diana, yr Iarll Spencer, wedi dweud bod y Brenin Charles "yn orfoleddus” mewn galwad ffôn iddo yn dilyn marwolaeth ei chwaer yn 1997.

Mewn llyfr dadleuol am Diana, dywedodd fod Charles, oedd yn Dywysog Cymru ar y pryd, yn swnio “fel pe bai wedi ennill y loteri” yn dilyn y newyddion.

Mae Palas Buckingham wedi ymateb yn flaenorol i honiadau Mr Spencer gan ddweud y gall “galar brawd gymylu rheswm”.

Dyma’r honiadau diweddaraf sydd wedi’u dyfynnu o gofiant yr Iarll Spencer sy'n cael ei gyhoeddi ar ffurf cyfres yn y Daily Mail,

Yn ôl y papur newydd, dywed yr Iarll Spencer fod y llyfr, Swan Song: Diana, My Sister, wedi’i ysgrifennu i gywiro “anwirioneddau” a gafodd eu dweud am ei chwaer hŷn, a fu farw mewn damwain car ym Mharis ym mis Awst 1997.

Yn y llyfr, mae’r Iarll Spencer, oedd yn byw yn Ne Affrica ar y pryd, yn rhannu ei atgof o dderbyn galwad ffôn gan ei chwaer Jane yng nghanol y nos i’w hysbysu am y ddamwain.

Yna fe ffoniodd Charles i roi gwybod iddo fod Diana wedi marw.

Dywedodd yr Iarll Spencer: “Yn wahanol i bawb arall a wnaeth alw, a oedd wedi’u syfrdanu ac yn ei chael hi'n anodd mynegi eu cydymdeimlad a'u cynnig o gymorth, roedd ei lais yn swnio’n orfoleddus; fel rhywun a oedd wedi ennill y loteri, rwy'n cofio meddwl ar y pryd.”

Mewn datganiad, dywedodd Palas Buckingham: “Er nad ydym yn gwneud sylwadau ar lyfrau fel mater o egwyddor, mae Ei Fawrhydi yn ymwybodol y gall poen galar brawd gymylu rheswm, effeithio ar farn ac effeithio ar sut y cofir pethau mewn ffyrdd nad yw eraill yn eu cydnabod, hyd yn oed flynyddoedd lawer ar ôl colled o'r fath.”

Llun: Y Brenin Charles, oedd yn Dywysog Cymru ar y pryd, yn cyfarch yr Iarll Spencer mewn digwyddiad yn Ne Affrica yn 1997 (Llun: PA)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.