'Diwrnod hanesyddol': Croesawu cymeradwyo cyffur canser i gleifion newydd

Newyddion S4C

'Diwrnod hanesyddol': Croesawu cymeradwyo cyffur canser i gleifion newydd

Mae'r cyflwynydd teledu a'r ymgyrchydd canser Mari Grug wedi disgrifio ddydd Iau fel "diwrnod hanesyddol" wedi i gyffur canser gael ei gymeradwyo i gleifion newydd.
 
Ddwy flynedd yn ôl, gwrthododd NICE, y corff sydd yn cymeradwyo cyffuriau ar gyfer y gwasanaeth iechyd, gyffur Enhertu ar gyfer cleifion a math HER2-isel o ganser y fron nad oes modd ei wella, gan ddweud nad oedd e'n cynnig gwerth am arian.
 
Ond ddydd Iau, cafodd tro pedol ei gyhoeddi a fydd yn rhoi mynediad at y cyffur i'r cleifion rheiny yn Lloegr. Bydd Cymru yn dilyn yn y deufis nesaf.
 
Dyw Enhertu ddim yn gwella cleifion, ond mae'n gallu ymestyn bywyd am sawl blwyddyn.
 
Fel un sydd yn byw gyda chanser HER2-positif nad oes modd ei wella, mae Mari Grug eisoes wedi bod yn derbyn Enhertu.
 
Wrth siarad â Newyddion S4C ar ôl cyflwyno rhaglen Prynhawn Da ddydd Iau, dywedodd bod y cyffur "yn galluogi fi i fyw bywyd llawn".
 
Mae'n derbyn y cyffur bob tair wythnos ac yn dweud bod Enhertu yn galluogi iddi "fod yn wraig, yn fam, yn gyflwynydd teledu."
 
Yn ddiolchgar am gael derbyn y cyffur ei hun drwy'r Gwasanaeth Iechyd, mae'n croesawu gweld eraill hefyd yn gallu manteisio arno.
 
"Yn anffodus, ni yn gwybod mai diwedd y gân yw'r geiniog. Ond mae'n dangos gwerth codi llais," meddai.
 
"Mae 'na ddwy flynedd wedi bod o ymgyrchu gyda miloedd o bobl. Mae 'na werth codi llais, cadw herio. Dwi'n meddwl bod e'n newyddion arbennig heddiw."
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu’r newyddion bod NICE wedi dod i gytundeb gyda’r gweithgynhyrchwyr i sicrhau bod Enhertu ar gael.
 
"Unwaith y bydd y gweithgynhyrchydd yn cadarnhau bod telerau’r cytundeb yn berthnasol i GIG Cymru fel y disgwyliwn, dylai pob bwrdd iechyd sicrhau bod Enhertu ar gael i’r rhai sy’n gymwys i’w gael."
 
Fe ganiataodd Mari i'r camerâu teledu ei dilyn ar ei thaith ganser mewn rhaglen ddogfen bwerus ddarlledwyd y llynedd ar S4C. Mae hefyd wedi dechrau podlediad Un Mewn Dau sydd yn trafod profiadau pobl o fyw gyda chanser.
 
Yr amcangydfrif yw y bydd tua 1,000 o bobl bob blwyddyn yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad ddydd Iau.
 
Wrth ddisgrifio'r diwrnod fel un "hanesyddol", fe ddywedodd "mae 'na 31 o fenywod yn marw gyda chanser y fron metastatig bob dydd ym Mhrydain. Felly mae unrhyw beth sydd yn gallu cael ei gymryd i helpu ac ymestyn bywyd yn beth i'w ddathlu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.