Teyrnged i 'ŵr a thad annwyl' a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberhonddu

Shane Hamilton

Mae teulu beiciwr modur a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Aberhonddu wedi rhoi teyrnged iddo. 

Bu farw Shane Hamilton, 51 oed, yn y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ar yr A40 rhwng Bwlch ac Aberhonddu ar 5 Medi.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Mae ein calonnau ni wedi eu torri yn sgil colled drasig Shane. 

"Roedd yn ŵr, tad, tad-cu, mab, brawd a ffrind gorau annwyl iawn, ac fe ddaeth â chymaint o lawenydd i'n teulu ac i bawb oedd yn ei adnabod.

"Un o'i hoff bethau mewn bywyd oedd mynd ar ei feic modur gyda'i fab, Luke. Bydd yr atgofion sydd gan y ddau gyda'i gilydd ar y teithiau hynny yn cael eu trysori am byth.

"Mae Shane yn gadael gwagle na ellir ei lenwi fyth, a bydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli'n ofnadwy."

Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Ford C-Max gwyn a beic modur KTM 1290 Duke.

Bu farw Mr Hamilton, a oedd yn gyrru'r beic modur, yn y fan a'r lle. 

Cafodd y ffordd ei chau er mwyn cynnal ymchwiliad i'r gwrthdrawiad, ac fe gafodd ei hail-agor am tua 02:00 ar 6 Medi. 

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20260905-207.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.