Y lluniau cyntaf o gynllun canolfan ddata anferth ar lan y Fenai

11/09/2026
Data Menai

Mae lluniau cyntaf o ddyluniad canolfan ddata anferth ar lan y Fenai yng Ngwynedd yn dangos union faint y datblygiad.

Fe fyddai'r ganolfan newydd o faint sylweddol iawn, gydag arwynebedd o 3,556,826.56 o droedfeddi sgwâr (41 hectar) petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio.

Byddai'r adeilad uchaf o fewn y safle yn dros 30 metr o uchder, ac fe allai ddefnyddio hyd at 11,949,120 litr o ddŵr y diwrnod. 

Byddai pump o adeiladau ar y safle i gyd, a phob un wedi eu dylunio er mwyn gweddu gyda'r amgylchedd meddai cais y datblygwyr, Gwelyfenai Ltd.

Bydd y gwaith o adeiladu'r safle'n creu 950 o swyddi, "gyda 210 o swyddi eraill lleol" unwaith y bydd y ganolfan wedi ei sefydlu. 

Mae lluniau newydd sydd wedi eu cyflwyno i gydfynd gyda'r cais yn rhoi argraff o faint y datblygiad o ochr draw i'r Fenai ar Ynys Môn.

Image
Data Menai
Yr olygfa o'r ganolfan o Ynys Môn (Llun: Gwelyfenai Ltd)

Bwriad y cynllun yn ôl y datblygwyr yw trawsnewid ac adfywio safle hen ffatri Ferodo sydd wedi mynd â’i phen iddi ers tro ar gyrion Caernarfon.

Fel rhan o'r cais cynllunio, cafodd dogfen Datganiad Dylunio a Mynediad ei chyflwyno i'r cyngor.

Mae'r ddogfen honno yn nodi fod canolfannau data yn cael eu dylunio "i gartrefu seilwaith digidol sefydliad yn ddiogel."

"Yn syml, warws ydyw sy'n cartrefu seilwaith TG a thelathrebu ar ffurf raciau o weinyddion cyfrifiadurol.

"Mae faint o ddata sy'n cael ei gynhyrchu ac sydd angen ei storio yn cynyddu'n gyflym, wedi'i ysgogi gan y trawsnewid yn y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio, a rôl technoleg mewn gweithgareddau personol, llywodraethol a busnes."

Image
menai
Dyluniad o drawstoriad o un o'r adeiladau ar y safle (Llun: Gwelyfenai Ltd)

Ychwanegodd y datganiad fod twf sylweddol yn y galw am ganolfannau data, a hynny "wedi'i ysgogi gan anghenion fel Deallusrwydd Artiffisial a gwasanaethau digidol uwch."

Cafodd cais cynllunio blaenorol ar gyfer parc gwyliau ar y safle ei wrthod. 

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Ddata Menai: "Mae’r ffigur o bron i 12 miliwn o litrau y dydd a nodwyd yn yr adroddiad yn cynrychioli senario lle byddai’r defnydd o ddŵr ar ei uchaf, nid y gofyniad dyddiol disgwyliedig. 

"Yn seiliedig ar y technolegau oeri diweddaraf, y senario mwyaf tebygol a nodir yn ein datganiad amgylcheddol yw y bydd angen tua 700,000 litr o ddŵr y dydd. Mae hyn yn gymaradwy â gofynion dŵr gwesty mawr, ysbyty neu gyfleuster cynhyrchu bwyd."

“Bydd y datblygiad hwn hefyd yn mynd i’r afael â’r perygl y mae’r safle wedi’i beri i iechyd a diogelwch y cyhoedd ers blynyddoedd. 

"Mae safle hen ffatri Ferodo wedi bod yn beryglus ac wedi’i halogi ag asbestos ers 2008, gydag achosion mynych o fandaliaeth a llosgi bwriadol."

Ychwanegodd y cwmni y byddai'r cynlluniau yn "sicrhau bod y safle’n cael ei lanhau’n drylwyr, a hynny drwy gyllid preifat." 

"Bydd hyn yn cynnwys cael gwared ar asbestos a halogiad arall yn ddiogel, yn unol â rheoliadau gwastraff peryglus. Bydd y gwaith yn mynd i’r afael â’r risgiau y mae’r safle’n eu peri ar hyn o bryd, heb roi unrhyw faich ariannol ar y cyngor na thrigolion lleol."

Image
map Menai
Arwynebedd ardal y datblygiad (yn y bocs coch), gyda cheisiadau cynllunio eraill blaenorol gerllaw. Caernarfon sydd i'r de (Llun: Cyngor Gwynedd)

Yn ôl gwaith ymchwil gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, Cymru oedd gyda’r capasiti canolfannau data uchaf y tu allan i Lundain ym Mhrydain yn 2024, gyda chapasiti o 154 megawat (MW) yng Nghymru a 1,048 MW yn Llundain. 

Mae nifer y canolfannau data yn tyfu'n gyflym yng Nghymru gyda nifer o ddatblygiadau wedi'u cynllunio ar hyd a lled y wlad. 

Mae dadansoddiad diweddar gan DESNZ dangos bod defnydd trydan canolfannau data yn ne-orllewin Lloegr a Chymru wedi dyblu rhwng 2020 a 2024.

Ond nid pawb sydd wedi croesawu'r datblygiadau mawr hyn ym myd technoleg.

Dywed elusen amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear fod uchelgais y Deyrnas Unedig "i fod yn arweinydd byd-eang mewn deallusrwydd artiffisial ac yn gyrchfan flaenllaw i fusnesau technoleg ar hyn o bryd yn creu tensiwn uniongyrchol gyda'i hymrwymiadau Net Sero a'r heriau prinder dŵr presennol. 

"Mae twf deallusrwydd artiffisial heb ei reoli yn peryglu tanseilio amcanion cynaliadwyedd ehangach."

Ychwanegodd yr elusen fod angen i'r llywodraeth ei gwneud yn ofynnol i berchnogion canolfannau data gyflwyno adroddiadau blynyddol gorfodol sy'n manylu ar y gymysgedd ynni (y cydbwysedd rhwng ynni adnewyddadwy ac ynni tanwydd ffosil); effeithlonrwydd ynni; defnyddio a thynnu dŵr, ac ailddefnyddio offer ac ailgylchu gwastraff trydan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.