Efrog Newydd yn nodi chwarter canrif ers ymosodiadau 9/11

911

Mae Efrog Newydd yn paratoi i nodi chwarter canrif ers ymosodiadau 11 Medi 2001, pan gafodd bron i 3,000 o bobl eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau terfysgol ar draws yr Unol Daleithiau.

Ddydd Gwener, bydd teuluoedd y dioddefwyr yn ymgynnull ar safle Canolfan Masnach y Byd ar gyfer prif seremoni goffa’r flwyddyn.

Ymhlith y defodau, bydd aelodau teulu'n darllen enwau’r rhai a gafodd eu lladd ar 11 Medi ac mewn ymosodiad blaenorol ar y ganolfan ym 1993.

Bydd saith cyfnod o dawelwch yn ystod y seremoni. Bydd chwech ohonyn nhw’n nodi’r adegau y cafodd y ddau dŵr eu taro ac y gwnaethon nhw ddymchwel, yn ogystal â’r ymosodiad ar y Pentagon a chwymp Flight 93 yn Pennsylvania.

Am y tro cyntaf, bydd seithfed cyfnod o dawelwch er cof am y rhai sydd wedi marw yn y blynyddoedd ers hynny o salwch ac anafiadau sy’n gysylltiedig â 9/11.

Image
911

Bydd y saib tawel cyntaf am 08:46 amser Efrog Newydd, sef yr union adeg y tarodd yr awyren gyntaf Dŵr y Gogledd.

Gyda’r nos, bydd dau belydryn golau’r Tribute in Light yn ymddangos unwaith eto uwchben Manhattan, gan gynrychioli’r ddau dŵr. Mae’r goleuadau i’w gweld hyd at tua 60 milltir o’r ddinas.

Bore 11 Medi

Cafodd y byd ei ysgwyd i'w seiliau gan yr ymosodiad chwarter canrif yn ôl, a arweiniodd at lansio'r "Rhyfel ar Derfysgaeth" dan arweiniaeth yr Unol Daleithiau. 

Ar fore 11 Medi 2001, herwgipiodd 19 aelod o'r grŵp terfysgol radical al-Qaeda bedair awyren deithwyr oedd wedi gadael meysydd awyr ar arfordir dwyreiniol UDA.

Am 08:46 amser lleol, tarodd American Airlines Flight 11 Dŵr y Gogledd Canolfan Masnach y Byd, un o'r "twin towers" oedd yn nodwedd mor amlwg yng nghanol Efrog Newydd.

Image
twin towers

Ar y dechrau, nid oedd yn glir beth oedd wedi digwydd.

Ond 17 munud yn ddiweddarach, am 09:03, tarodd United Airlines Flight 175 Dŵr y De. Cafodd y digwyddiad ei ddarlledu’n fyw ar deledu ar draws y byd, ac roedd hi bellach yn amlwg bod yr Unol Daleithiau dan ymosodiad.

Am 09:37, tarodd American Airlines Flight 77 y Pentagon, pencadlys Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau yn Virginia.

Image
Pentagon

Am 09:59, cwympodd Dŵr y De, 56 munud ar ôl iddo gael ei daro.

Pedwar munud yn ddiweddarach, fe wnaeth United Airlines Flight 93 blymio a chwalu mewn cae ger Shanksville, Pennsylvania.

Roedd teithwyr ar yr awyren wedi clywed am yr ymosodiadau eraill drwy alwadau ffôn ac wedi ceisio cymryd rheolaeth o’r awyren oddi ar yr herwgipwyr.

Roedd yr awyren yn teithio i gyfeiriad Washington DC ac, yn ôl Comisiwn 9/11, y Capitol neu’r Tŷ Gwyn oedd y targed tebygol.

Am 10:28, cwympodd Tŵr y Gogledd. Roedd 102 munud wedi mynd heibio ers i’r awyren gyntaf daro.

Image
9/11

Bron i 3,000 wedi’u lladd

Cafodd 2,977 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau, gyda'r dioddefwyr yn dod o fwy na 90 o wledydd. Bu farw 2,753 yn Efrog Newydd, 184 yn y Pentagon ac ar yr awyren a’i tarodd, a 40 ar Flight 93.

Roedd cannoedd o weithwyr y gwasanaethau brys ymhlith y meirw.

Cafodd 343 o ddiffoddwyr tân Adran Dân Efrog Newydd, 37 o swyddogion heddlu Awdurdod y Porthladd a 23 o swyddogion Heddlu Efrog Newydd eu lladd.

Roedd 67 o’r rhai a fu farw yn ddinasyddion Prydeinig, mwy nag o unrhyw wlad arall y tu allan i’r Unol Daleithiau.

Image
911

Bydd seremoni hefyd yn cael ei chynnal ddydd Gwener yng Nghofeb Genedlaethol Flight 93 yn Pennsylvania, lle bydd enwau’r 40 o deithwyr ac aelodau’r criw a fu farw yn cael eu darllen a chlychau coffa yn canu.

Yn Llundain, bydd cyngerdd coffa yng Nghadeirlan Southwark nos Wener, gyda cherddoriaeth gan gyfansoddwyr o America a Phrydain i gofio’r rhai a fu farw.

Bydd gwasanaeth hefyd yng Ngardd 11 Medi y Frenhines Elizabeth II yn Hanover Square, cofeb sydd wedi’i chysegru i ddioddefwyr o Brydain a’r Gymanwlad. Bydd cyfnod o dawelwch am 10:28, yr adeg y disgynnodd Tŵr y Gogledd.

Yr hyn a ddilynodd

Newidiodd yr ymosodiadau bolisi tramor a diogelwch yr Unol Daleithiau yn sylweddol.

Ychydig ddyddiau wedyn, rhoddodd Cyngres yr Unol Daleithiau awdurdod i’r Arlywydd George W Bush ddefnyddio grym milwrol yn erbyn y rhai oedd wedi cynllunio neu gynorthwyo’r ymosodiadau, neu’r rhai oedd wedi rhoi lloches iddyn nhw.

Ym mis Hydref 2001, dechreuodd lluoedd yr Unol Daleithiau weithredu yn Affganistan yn erbyn al-Qaeda a’r Taliban, oedd wedi rhoi lloches i’r grŵp.

Daeth hynny’n ddechrau rhyfel fyddai’n para am bron i 20 mlynedd.

Image
9/11

Cafodd Osama bin Laden, arweinydd al-Qaeda a’r dyn oedd yn gyfrifol am gynllunio’r ymosodiadau, ei ladd gan luoedd arbennig yr Unol Daleithiau ym Mhacistan ym mis Mai 2011.

Gadawodd milwyr olaf yr Unol Daleithiau Afghanistan ym mis Awst 2021.

Cafodd y Transportation Security Administration ei sefydlu yn yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd 2001, gan arwain at newidiadau mawr i ddiogelwch mewn meysydd awyr.

Fe gafodd drysau talwrn awyrennau eu hatgyfnerthu a daeth gwiriadau teithwyr a bagiau yn llawer llymach. Cafodd Adran Diogelwch y Famwlad ei chreu hefyd, gan ddod â 22 o asiantaethau ac adrannau’r llywodraeth at ei gilydd.

Cysylltiadau â Chymru

Ymhlith y 67 o ddinasyddion Prydeinig a gafodd eu lladd roedd Katherine Wolf, a anwyd yn Abertawe ym 1961.

Roedd hi’n 40 oed ac yn gweithio i Marsh & McLennan ar 97fed llawr Tŵr y Gogledd. Tarodd American Airlines Flight 11 y tŵr rhwng lloriau 93 a 99.

Image
911

Roedd Katherine wedi bod yn byw yn Efrog Newydd gyda’i gŵr Charles Wolf. Yn dilyn ei marwolaeth, daeth Mr Wolf yn un o’r ymgyrchwyr amlwg dros iawndal i deuluoedd y dioddefwyr.

Mae cysylltiad arall â Chymru drwy Nelson Haerr, cyn-ddiffoddwr tân yn Efrog Newydd sydd bellach yn byw yn Llanrwst.

Roedd Mr Haerr ymhlith y diffoddwyr tân a ymatebodd i’r ymosodiadau a bu’n chwilio drwy’r rwbel wedi hynny. Collodd chwech o’i gydweithwyr ar 11 Medi.

Yn gynharach y mis hwn, teithiodd naw diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i Atlanta i gymryd rhan mewn her goffa.

Dringon nhw’r hyn sy’n cyfateb i 110 o loriau, uchder y Twin Towers, er cof am y 343 o ddiffoddwyr tân yn Efrog Newydd a gafodd eu lladd yn yr ymosodiadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.