Rhun ap Iorwerth, sydd bellach yn Brif Weinidog ar Gymru, yn gohebu ar ddigwyddiad Medi 11, 2001
Chwarter canrif ers trychineb 9/11, mae Prif Weinidog Cymru yn dweud bod "camgymeriadau difrifol" wedi eu gwneud o ran polisi tramor yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ar America yn 2001.
Ddydd Gwener, bydd teuluoedd gollodd anwyliaid yn yr ymosodiadau yn mynychu seremoni arbennig yn Efrog Newydd lle bydd enwau'r 2,983 o bobl bu farw ar Fedi 11, 2001 yn cael eu cyhoeddi.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar ei wyliau yn ardal Efrog Newydd pan darodd dwy awyren dyrau enwog Canolfan Fasnach y Byd.
Ar y pryd, roedd yn gweithio fel gohebydd i raglen Newyddion S4C ac fe anfonodd adroddiadau byw o'r ddinas wedi'r ymosodiadau.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, fe adlewyrchodd ar oblygiadau 9/11 ar gyfer rhaglen arbennig ar sianel YouTube Newyddion S4C.
'Gweithredu heb feddwl'
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn teimlo i "gamgymeriadau difrifol gael eu gwneud" o ran polisi tramor yn dilyn 9/11 "gan ddechrau gwahanol ryfeloedd ac ati."
"Beth welson ni ar ôl Medi 11 oedd y penderfynoldeb yma yn America - rydw i'n ei gofio'n iawn - i ddial," meddai.
"Ar yr un llaw, oherwydd maint yr ymosodiad ar America, mae rhywun yn gallu deall.
"Ond wrth gwrs, beth mae rhywun wedyn yn gorfod ei ystyried yw beth ydy'r perygl o weithredu heb feddwl rhywbeth drwodd? Heb feddwl beth ydy'r goblygiadau? Heb feddwl am ffordd allan? Heb feddwl beth ydy'r pen draw?
"Dyna ydy'r negeseuon dwi'n meddwl na'th ddilyn o'r rhyfel yn Affganistan er enghraifft."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb y Weinyddiaeth Amddiffyn i'w sylwadau.
Image
Cyflwynydd Newyddion S4C, Rhodri Llywelyn, sydd wedi bod yn cwrdd â Chymry oedd yno ar 9/11
Mae cyflwynydd rhaglen Newyddion S4C, Rhodri Llywelyn, wedi bod yn Efrog Newydd dros y dyddiau diwethaf yn cyfarfod â Chymry oedd yn y ddinas adeg yr ymosodiadau.
Roedd llywydd presennol Cymdeithas Dewi Sant Efrog Newydd, David Morgan, i fod mewn cyfarfod yn Nhŵr y De - yr ail i gael ei daro - ar y bore hwnnw.
"Diolch i Dduw na es i yno'r bore yna," dywedodd wrth y cyflwynydd. "Un peth alla' i byth anghofio yw bod y bobl ro'n i'n aelod o'r gymdeithas honno gyda nhw, ni ddaeth un ohonyn nhw mas.
"Mae'n anodd i feddwl 'mod i wedi gweithio gyda phobl, a 'nabod nhw'n gymdeithasol ac yn y blaen, ac ar y diwrnod ofnadwy hwnnw dda'th popeth i ddiwedd."
Image
Cofeb i'r miloedd fu farw yn Efrog Newydd ar 9/11
Ymysg yr enwau sydd wedi eu naddu ar gofeb 9/11 mae'r Gymraes o Abertawe, Katherine Susan Wolf. Roedd hi wedi bod yn gweithio ar 97ed llawr Tŵr y Gogledd ers ychydig wythnosau yn unig.
Wrth ymweld â'r safle, mae ei gŵr, Charles, yn cofio am ei wraig a'u perthynas agos - ac yn diolch na wnaeth hi ddioddef.
"Roedd gennym berthynas cwbl arbennig. Rwy' mor ffodus iddi fod yn rhan o fy mywyd am 13 o flynyddoedd cyn i fi ei cholli pan darodd yr awyren ei hadeilad. Nid yn unig yr adeilad, ond ei swyddfa hi.
"Doedd dim olion o gwbl ohonyn nhw. Cawson nhw eu lladd ar unwaith. Doedd dim poen.
"Mae'n fendith - doedd hi ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd."
Nid debris - ond pobl
Un arall oedd yn y ddinas oedd y ffotograffydd sy'n wreiddiol o Ruthun, Dan Callister.
"Erbyn i fi gyrraedd yma, roedd Tŵr y De wedi dymchwel," meddai.
"Roedd yr holl bobl yma yn cerdded heibio i fi a'u hwynebau yn hollol welw. Roedd hi'n amlwg bod rhywbeth difrifol wedi digwyddodd."
"Wrth agosáu... ro'n i'n gweld debris yn cwympo - wedyn sylweddolais i nad debris oedd e ond pobl."
Image
Cymerodd dri llun o Dŵr y Gogledd cyn i hwnnw hefyd ddymchwel.
"Roedd yr holl injans tân oedd wedi mynd heibio i fi ynghynt wedi eu chwalu. Roedd e'n swreal iawn," meddai.
Mae'n dweud bod sŵn seirenau cerbydau gwasanaethau brys yn dal i'w boeni hyd heddiw.
Ac mae e hefyd, fel nifer o drigolion Efrog Newydd sydd wedi siarad gyda Newyddion S4C yr wythnos hon, yn teimlo nad yw'r "rhyfel ar derfysgaeth" ddilynodd ymosodiadau 9/11, gan gynnwys y rhyfeloedd hir yn Affganistan ac Irac, wedi gwneud y ddinas na'r byd yn fwy diogel.
"Newidiodd y byd ar 9/11 ond nid er gwell yn sicr," meddai. "Dwi'n credu ein bod ni mwy anniogel nawr nag erioed."