Newyddion S4C

Covid-19: Arweinydd ymchwiliad E. coli 2005 yn erbyn ymchwiliad penodol i Gymru

Golwg 360 19/09/2021
Covid-19
NS4C

Mae'r gwyddonydd fu'n arwain yr ymchwiliad i E. coli yn 2005 wedi dweud nad yw'n cefnogi galwadau am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Dywedodd yr Athro Hugh Pennington wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC y byddai "gorgyffwrdd sylweddol" rhwng ymchwiliad y Deyrnas Unedig ac unrhyw ymchwiliad yng Nghymru.

Mae'r gwyddonydd yn galw am "sylw manwl" i Gymru fel rhan o'r ymchwiliad ehangach ar draws y DU, yn ôl Golwg 360.

Mae nifer o'r gwrthbleidiau a grwpiau ymgyrchu wedi bod yn galw am gyhoeddi ymchwiliad penodol i Gymru ers tro.

Darllenwch fwy ar y stori yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.