Cais i droi hen lys ynadon yn fflatiau fforddiadwy ar Ynys Môn
Mae Cyngor Môn wedi gwneud cais i newid hen adeilad llys ynadon yn chwech o fflatiau fforddiadwy.
Roedd adeilad Llys Ynadon Caergybi yn gweithredu am fwy na chanrif, cyn iddo gau yn 2016.
Mae'r cyngor wedi cyflwyno cynlluniau i greu chwe uned fforddiadwy ar y safle yn Stryd Stanley yn y dref.
Mae'r cais cynllunio yn cynnwys dymchwel yr adeilad yn rhannol, gwenud addasiadau a hefyd estyniadau i'r hen lys barn .
Mae'r adeilad yng nghanol y dref yn dyddio'n ôl i 1894 ac fe'i hadeiladwyd yn arddull adeiladau dinesig a chyfreithiol y cyfnod.
Mae tu-allan yr adeilad yn arddangos manylion cyfnod, tra bod y tu-mewn yn cadw llawer o'i nodweddion gwreiddiol.
Wedi'i leoli yn un o ardaloedd cadwraeth Caergybi, mae'r adeilad deulawr ar hyn o bryd yn cynnwys cymysgedd o swyddfeydd, gyda phrif ardal y llys wedi'i lleoli ar y llawr cyntaf.
Mae'r cynlluniau'n disgrifio sut roedd yr adeilad hefyd wedi'i gysylltu â gorsaf heddlu yn flaenorol.
Dywed y cais cynllunio: "Nid yw'r adeilad wedi cael unrhyw addasiadau strwythurol mawr dros amser.
"Adeiladwyd yr adeilad yn bwrpasol fel llys yn y 19eg ganrif ac mae wedi parhau felly tan iddo gau yn 2016.
"Er gwaethaf cael cymeradwyaeth gynllunio i'w droi yn westy, mae wedi bod yn wag ers hynny."
Mae'r cynlluniau diweddaraf yn disgrifio datblygiad pedwar fflat un ystafell wely, un fflat dwy ystafell wely, ac un fflat stiwdio.
Dywedodd datganiad effaith treftadaeth fod y cynllun newydd "yn ceisio cydbwyso defnydd parhaus yr adeilad â chadwraeth, a gwella ei ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol".
Ychwanegodd y datganiad: "Mae'r adeilad yn ased treftadaeth trawiadol i'r dref sy'n adlewyrchu arddull bensaernïol Jacobeaidd y 19eg ganrif o'r cyfnod y cafodd ei adeiladu."
Er mwyn cyfyngu ar aflonyddwch i eiddo cyfagos, y bydd unrhyw waith adeiladu yn cael ei gyfyngu i oriau rhwng 08:00 a 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 08:00 a 13:00 ar ddyddiau Sadwrn.