Tân yn Llŷn: Cofio 90 mlynedd ers i Dri Penyberth losgi'r ysgol fomio
90 o flynyddoedd ers llosgi'r ysgol fomio ym Mhenrhos ger Pwllheli, mae ŵyr un o'r tri chenedlaetholwr amlwg oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad wedi dweud mai gweithred o brotest oedd hi, nid gweithred derfysgol.
Ar 8 Medi 1936, rhoddodd Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams adeiladau’r Awyrlu ym Mhenrhos ar dân.
Dywedodd Ian Gwyn Hughes, ŵyr Lewis Valentine, wrth Newyddion S4C ei fod wedi bod o'r farn erioed mai protest oedd y digwyddiad, yn hytrach nag unrhyw ymosodiad terfysgol:
"O'n sgyrsiau gyda taid, oedd o'n benderfynol fod na ddim niwed corfforol yn mynd i fod i neb, oedd o'n neud yn siŵr iawn fod na neb yn mynd i fod yna, a mai gweithred yn erbyn adeiladau oedd o.
"Dwi erioed wedi ei weld o fel gweithred terfysgol - mae'n debyg heddiw y bydda fo yn cael ei weld fel gweithred terfysgol, ond dwi bob tro wedi ei weld o fel gweithred protest.
"Achos alla i byth ddychmygu, o nabod fy nhaid, y byddai fo yn gwneud unrhyw beth oedd o'n ymwybodol y byddai fo'n peryglu bywydau pobl."
Y llosgi
Roedd y tri oedd yn gyfrifol am losgi'r ysgol fomio yn aelodau blaenllaw o Blaid Genedlaethol Cymru, rhagflaenydd Plaid Cymru heddiw.
Ar ôl y weithred, aethant i Orsaf Heddlu Pwllheli i ildio eu hunain.
Yn dilyn achos yn Llys y Goron Caernarfon, methodd y rheithgor â dod i ddyfarniad. Cafodd yr achos ei symud i’r Old Bailey yn Llundain, lle cafodd y tri eu dedfrydu i naw mis yng Ngharchar Wormwood Scrubs.
Ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, cafodd y tri eu croesawu gan dorf o 15,000 o bobl yng Nghaernarfon.
Roedd Penyberth wedi bod yn gartref i genedlaethau o noddwyr beirdd ac yn fan gorffwys i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli.
Roedd y Weinyddiaeth Awyr yn bwriadu defnyddio’r safle fel maes awyr a chanolfan hyfforddi, gan gynnwys ysgol fomio.
Arweiniodd y cynlluniau at brotestiadau eang yng Nghymru.
Terfysgaeth neu brotest?
Wrth edrych ar y digwyddiad, dywedodd yn cyn-farnwr Nic Parry nad oedd y weithred o losgi'r ysgol fomio ar y pryd wedi newid y gyfraith yn ddiweddarach.
"O safbwynt Penyberth, fe fydda fo'n ormodiaeth dweud ei fod o wedi arwain at newid y gyfraith, ond mae;n engrhaifft dda i esbonio sut mae'r gyfraith wedi newid.
"Heddiw, heb amheuaeth, hynny yw, mae'r diffiniad o derfysgwr yn gwbl syml, da chi'n gyfrifol am weithred ddifrifol o drais, gyda'r bwriad o newid agwedd llywodraeth."
Opera i nodi'r 90 mlynedd
Bydd opera Gymraeg newydd sy’n adrodd hanes llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth yn mynd ar daith ledled Cymru'n ddiweddarach y flwyddyn hon.
OPRA Cymru sydd wedi comisiynu’r cyfansoddwr Gareth Glyn i greu’r gerddoriaeth ar gyfer yr opera newydd, Fflamau Penyberth.
Cafodd y libreto ei ysgrifennu gan sylfaenydd y cwmni, Patrick Young, mewn cydweithrediad â’r awdur a’r hanesydd Arwel Vittle.
Dywedodd Patrick Young: “I nodi 90 mlynedd ers digwyddiad a oedd yn drobwynt hanesyddol i ddyfodol y Gymraeg, mae’r opera newydd ar fin teithio Cymru gyda chast gwych sydd i gyd wedi gweithio gydag OPRA Cymru yn y gorffennol.
“Mae Gareth Glyn yn dychwelyd i weithio gydag OPRA Cymru i ailadrodd stori ryfeddol tri dyn parchus a roddodd ganolfan y llu awyr ar dân cyn trosglwyddo eu hunain i’r heddlu.”
Dywedodd Arwel Vittle: “Heb ddatgelu gormod mae’r opera yn dechrau gyda Lewis Valentine mewn cell yn y carchar ac mae’r stori yn cael ei hadrodd mewn cyfres o olygfeydd sy’n adrodd y stori hyd at y pwynt yna.
“Mae Patrick wedi defnyddio rhywfaint o ryddid artistig wrth adrodd y stori ac mae rhai digwyddiadau wedi’u crynhoi ond mae craidd y stori yn glynu at y ffeithiau hanesyddol.”
Bydd Robyn Lyn Evans, Emyr Wyn Jones a Robin Gruffudd Hughes yn canu’r prif rannau, gyda chefnogaeth cast o chwech arall.
Bydd perfformiad cyntaf Fflamau Penyberth yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, ddydd Iau 19 Tachwedd.
Bydd yr opera wedyn yn ymweld â Rhosllannerchrugog, Bangor, Abertawe, y Barri, Aberhonddu ac Aberystwyth, cyn dychwelyd i Bwllheli ar 5 Rhagfyr.
Prif lun: Plaid Cymru