Gianni Infantino i sefyll eto i geisio arwain Fifa wedi cyfnod cythryblus
Bydd llywydd Fifa, Gianni Infantino yn sefyll eto fis Mawrth nesaf i geisio arwain y corff llywodraethu pêl-droed am y pedwerydd tymor.
Mae'r gŵr 56 oed o'r Swistir wedi bod yn y rôl ers 2016, ac wedi bod o dan bwysau yn ddiweddar yn sgil ei gynllun aflwyddiannus i werthu cyfranddaliadau yng nghystadlaethau'r corff llywodraethu i fuddsoddwyr preifat.
Ddechrau Awst, dywedodd Gianni Infantino, ei fod wedi rhoi'r gorau i'r cynllun dadleuol hwnnw wedi gwrthwynebiad eang.
Roedd Uefa - sy’n llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd - wedi pleidleisio dros foicotio Cwpanau’r Byd pe bai’r cynlluniau’n mynd yn eu blaen, ac roedd cyrff llywodraethu eraill yn gwrthwynebu hefyd.
Roedd Cymru ymhlith gwledydd Uefa a oedd yn anfodlon â'r cynllun.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Fifa: "Cyhoeddodd llywydd Fifa fis Ebrill y byddai'n ymgeisio i gael ei ail ethol yn 2027.
"Wrth gwrs, does dim wedi newid. Bydd Mr Infantino yn sefyll er mwyn ceisio cael ei ail ethol."
Gwrthododd Gianni Infantino ateb cwestiynau am ei ddyfodol wrth newyddiadurwyr yng Nghwpan y Byd o dan 20 oed y menywod yng Ngwlad Pwyl ddydd Sadwrn.
Dyma'r tro cyntaf i Fifa ddweud y bydd yn sefyll am bedwerydd tymor, ers i gynllun dadleuol Gianni Infantino gael ei ddatgelu wedi Pencampwriaeth Cwpan y Byd y dynion dros yr haf.
Yn ôl rheolau Fifa, gall llywydd fod wrth y llyw am uchafswn o bedwar tymor.
Os yn llwyddiannus yn yr etholiad fis Mawrth nesaf, byddai yn y rôl tan 2031.
Does neb wedi cyhoeddi y bydd yn herio Gianni Infantino yn yr etholiad hwnnw eto.
18 Tachwedd yw'r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.