Sir Benfro: Y chwilio'n dod i ben ar ôl i fachgen 14 oed fynd i drafferthion yn y môr

Gwylwyr y Glannau Angle, Sir Benfro

Mae'r ymdrech i ddod o hyd i fachgen 14 oed sydd ar goll ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro wedi dod i ben.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi treulio dros 22 awr yn chwilio yn y dŵr oddi ar ardal Marloes ar ôl adroddiadau bod nofiwr 14 oed ar goll ddydd Sul.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi derbyn adroddiadau am 15:30 ddydd Sul fod tri o bobl mewn trafferthion yn y dŵr ger y pentref yn Sir Benfro.

Fe wnaeth dau o'r tri person lwyddo i achub eu hunain, ond roedd un person yn parhau ar goll.

Roedd hofrennydd, cychod Gwylwyr y Glannau, yr heddlu a sawl cwch masnachol yn rhan o'r ymdrech i'w achub, meddai Gwylwyr y Glannau.

Roedd Gwylwyr y Glannau wedi chwilio rhwng Aberdyllan a St Anne's Head, gan gynnwys ynysoedd Sgomer a Sgogwm, ac yn y dŵr ym Marloes.

Fe ddaeth y chwilio i ben am 19:30 nos Lun.

Mewn datganiad, dywedodd Gwylwyr y Glannau Angle fod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r nofiwr sydd ar goll.

"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'n criw sydd wedi dangos ymroddiad aruthrol dros y ddau ddiwrnod diwethaf, a diolch yn fawr iawn i Wylwyr y Glannau Aberdaugleddau am eu cydlyniad a'u cefnogaeth wych yn yr hyn sydd wedi bod yn ddigwyddiad hir a blinedig i'n criw," medden nhw.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r nofiwr yn ystod yr amser anodd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.