Cwmni marchnata blaenllaw o Gaerdydd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr
Mae cwmni marchnata blaenllaw o Gaerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Dywedodd cwmni Orchard Media and Events Ltd mewn datganiad ar Instagram eu bod nhw “wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi’r gorau i fasnachu”.
Roedden nhw wedi cyfarwyddo Menzies LLP i roi’r cwmni “yn nwylo’r diddymwyr”.
Roedd cleientiaid y cwmni wedi cynnwys Llywodraeth Cymru, Netflix, Cymdeithas Adeiladu Principlaity ac Aston Martin.
Roedden nhw wedi cynhyrchu cynnwys ffilm ar gyfer Croeso Cymru a rhaglenni teledu ar gyfer y BBC, S4C, Channel 4 a National Geographic.
“Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi wynebu heriau yn sgil marchnad sy’n crebachu a chystadleuaeth gynyddol,” meddai’r datganiad.
“Arweiniodd hyn at sefyllfa lle nad oedd maint ac ansawdd ein gwaith bellach yn gynaliadwy.
“Drwy gydol y cyfnod hwn, parhaodd ein tîm ymroddedig ac arbenigol o staff i sicrhau canlyniadau rhagorol i’n cleientiaid."
Ychwanegodd y cwmni: “Mae gennym hanes rhagorol fel cwmni ers inni gael ein sefydlu fel Orchard yn 2010.
“Tyfodd y cwmni’n sylweddol, gan ddatblygu ein gwasanaethau ac ymateb i anghenion ein cleientiaid, a daeth yn gwmni sy’n eiddo i’w weithwyr yn 2024.
“Bydd Menzies LLP yn cysylltu â’r holl gleientiaid a chyflenwyr perthnasol cyn gynted â phosibl.
“Hoffem ddiolch i’n cleientiaid, ein cyflenwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth.”
Yn 2024 fe sefydlodd y cwmni ymddiriedolaeth perchnogaeth gweithwyr (EOT) gan drosglwyddo perchnogaeth i weithwyr y cwmni.
Dyweedodd y cwmni bryd hynny fod ganddynt 64 aelod o staff a throsiant o £15 miliwn y flwyddyn.