Cyhuddo dyn ar ôl i ddynes a merch farw mewn tân
Mae dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i ferch saith oed a’i modryb 34 oed farw mewn tân.
Bu farw Natalie McDonald a’i nith Valentina Foster yn y tân yn Grangetown, ger Middlesbrough, yn oriau mân fore Mercher.
Mae’r dyn wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o lofruddiaeth, dau achos o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol a dau achos o geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, yn ôl Heddlu Cleveland.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Teesside yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio Katie Smith, o Heddlu Northumbria: “Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad gwirioneddol drasig ac mae fy meddyliau’n parhau gyda theuluoedd pawb dan sylw.
“Hoffwn ddiolch i drigolion lleol am eu cefnogaeth a’u hamynedd yn ystod yr ymchwiliad cymhleth hwn.”
Dywedodd Katie Nicolson, prif erlynydd y Goron ar gyfer CPS Gogledd-ddwyrain Lloegr: “Mae ein herlynwyr wedi gweithio’n agos gyda Heddlu Cleveland i gadarnhau bod digon o dystiolaeth i ddod â’r achos hwn gerbron y llys.
“Rydyn ni’n atgoffa pawb bod yr achos yn erbyn y diffynnydd yn weithredol a bod ganddo’r hawl i achos llys teg.
“Mae’n hanfodol nad oes unrhyw beth yn cael ei gyhoeddi, ei ddweud na’i rannu a allai, mewn unrhyw ffordd, effeithio ar yr achos hwn.”