Austen, Boelo a Chloe: Cyhoeddi enwau stormydd nesaf y gaeaf

Storm Darragh

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhestr o enwau stormydd ar gyfer y flwyddyn 2026/2027.

Austen, Boelo a Chloe fydd y stormydd cyntaf i gael eu henwi'r gaeaf hwn ar ôl i fwy na 40,000 o awgrymiadau gael eu cyflwyno gan y cyhoedd.

Mae Swyddfa Dywydd y DU a gwasanaeth tywydd yr Iseldiroedd a Met Eireann yn Iwerddon yn enwi stormydd sydd yn debygol o gael effaith ‘canolig’ neu ‘uchel’ ar bobl dros y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd fod pwrpas enwi stormydd hefyd yn bwysig gan ei fod yn helpu pobl i sylwi, paratoi ac aros yn ddiogel mewn tywydd garw.

Mae'r sefydliadau wedi bod yn enwi stormydd ers 2015, gyda'r rhestr yn dechrau ar ddechrau mis Medi ac yn mynd yn ei flaen tan y mis Awst canlynol.

O dan gonfensiynau enwi sy'n cael eu defnyddio ar gyfer stormydd yng Ngogledd yr Iwerydd, mae'r rhestr yn rhedeg yn nhrefn yr wyddor, gan hepgor Q, U, X, Y a Z.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, fe gafodd pedwar enw ei ddefnyddio o'r rhestr, gan gyrraedd y llythyren D gyda Storm Dave ar 1 Ebrill. 

Fe wnaeth y wlad hefyd weld effeithiau tair storm arall a gafodd eu henwi gan wasanaethau meteorolegol Ewropeaidd eraill, sef Stormydd Benjamin, Claudia a Goretti.

Fe gafo0dd y trydydd enw yn y rhestr eleni, Chloe, ei ddewis gan y Swyddfa Dywydd ar ôl cael ei gynnig fwy na 120 o weithiau.

Mae Finn, Ivy, Miriam a Nicola hefyd ymhlith yr enwau sydd wedi eu dewis. 

Dywedodd Holly Clements, pennaeth rhybuddion a chanllawiau’r Swyddfa Dywydd: “Ers mwy na degawd, mae enwi stormydd wedi ein helpu i gyflwyno'r risgiau o dywydd garw yn fwy effeithiol.

"Mae storm sydd wedi ei henwi yn darparu ffocws clir ar gyfer rhagolygon a rhybuddion, gan helpu mwy o bobl i ddeall yr effeithiau posibl a chymryd camau i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a’u heiddo.”

Dyma'r enwau a'u tarddiad:

Austen (Iwerddon)

Boelo (Yr Iseldiroedd)

Dano  (Yr Iseldiroedd)

Evelyn (Iwerddon)

Finn (DU)

Gwendolyn (Yr Iseldiroedd)

Heather (Iwerddon)

Ivy (UK)

Jade (Yr Iseldiroedd)

Kilian (Iwerddon)

Laoise (Iwerdon)

Miriam (Iwerddon)

Nicola (DU)

Olaf (Yr Iseldiroedd)

Phelim (Iwerddon)

Ruban (DU)

Shaun (DU)

Theo (DU)

Vesna (Yr Iseldiroedd)

Wende (Yr Iseldiroedd)
 

 





 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.