Rhybudd melyn am fellt a tharanau i'r rhan fwyaf o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am fellt a tharanau ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru ddydd Gwener.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 12:00 a 21:00, gan effeithio'n bennaf ar ardaloedd mewndirol.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai stormydd ddod â rhwng 10 a 20mm o law mewn cyfnod byr mewn rhai mannau, gyda rhwng 30 a 40mm yn bosib mewn ardaloedd sy'n cael sawl cawod ar ôl ei gilydd.
Yn ôl yr asiantaeth, gallai'r tywydd arwain at amodau gyrru anodd, gyda ffyrdd yn wlyb a dŵr yn tasgu neu genllysg mewn rhai mannau. Gallai hynny olygu teithiau hirach mewn ceir a bysiau.
Mae posibilrwydd hefyd o oedi i wasanaethau trên.
Dywedodd y rhybudd y gallai mellt achosi difrod i rai adeiladau a strwythurau, ac y gallai rhai ardaloedd wynebu toriadau byr i gyflenwadau trydan.
Mae perygl hefyd o lifogydd mewn nifer fach o gartrefi a busnesau, a allai achosi difrod i adeiladau neu strwythurau.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Sir y Fflint
- Torfaen
- Wrecsam