Y Barri'n edrych i ymestyn eu mantais ar frig yr Uwch Gynghrair
Y Barri sydd ar frig Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill eu pedair gêm gyntaf y tymor, tra bod pedwar tîm yn dal i chwilio am eu pwyntiau cyntaf.
Dau o'r clybiau hynny ar waelod y gynghrair yw Hwlffordd a Threfelin – dau glwb sydd wedi methu â sgorio yn eu pedair gêm gyntaf, tra mai'r Y Seintiau Newydd yw'r unig dîm sydd eto i ildio gôl yn y gynghrair.
Cei Connah (4ydd) v Cambrian United (7fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Cei Connah wedi codi i'r 4ydd safle ar ôl rhediad rhagorol o dair buddugoliaeth yn olynol.
Y Nomadiaid yw prif sgorwyr y gynghrair (12 gôl), gyda'r triawd ymosodol Hussein Mehasseb (4 gôl, creu 1), Callum West (1 gôl, creu 5) a Harry Franklin (3 gôl) yn profi'n arbennig o ffrwythlon hyd yn hyn.
Roedd hi'n fuddugoliaeth pwysig oddi cartref i Cambrian United yn erbyn Hwlffordd ddydd Gwener, gyda'r clwb yn symud allan o'r chwech isaf (Hwl 0-3 Cam).
Dyma fydd y cyfarfod cyntaf erioed rhwng y clybiau wrth i'r ddau dîm geisio parhau â'u rhediad da.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏❌✅✅✅
Cambrian United: ͏❌͏➖✅✅
Llandudno (5ed) v Hwlffordd (14eg) | Dydd Gwener – 19:45
Ar ôl ennill eu tair gêm gyntaf ar ôl dyrchafiad dros yr haf, daeth dechrau perffaith Llandudno i ben oddi cartref ym Mhen-y-bont ddydd Gwener diwethaf (Pen 2-1 Lldo).
Yn sicr nid yw wedi bod yn ddechrau perffaith i Hwlffordd, gyda'r Adar Gleision dal heb unrhyw bwyntiau na gôl ar ôl pedair gêm.
Yn dilyn y golled gartref o 0-3 i Cambrian ddydd Gwener diwethaf, dywedodd Tony Pennock mai dyma'r isaf yr oedd wedi'i deimlo yn ei bedair blynedd fel rheolwr Hwlffordd, a hynny oherwydd diffyg awydd yn ei garfan.
Felly bydd Llandudno yn hyderus o sicrhau canlyniad cadarnhaol, ar ôl ennill eu 22 gêm gartref ddiwethaf ers colli 2-3 i Fwcle ym mis Mawrth 2025.
Dyma fydd y cyfarfod cyntaf rhwng y ddau glwb ers 11 mlynedd, pan enillodd Llandudno 1-0 ym Mharc Maesdu yn ystod tymor 2015/16.
Record cynghrair diweddar:
Llandudno: ͏✅✅✅❌
Sir Hwlffordd: ͏❌❌❌❌
Met Caerdydd (10fed) v Llansawel (8fed) | Dydd Gwener – 19:45
Dioddefodd Met Caerdydd golled o 0-5 yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Gwener diwethaf ar ôl i James Clarke gael cerdyn coch ar ddiwedd yr hanner cyntaf am dynnu gwallt un o'i wrthwynebwyr.
Yn Stadiwm Essity, roedd Llansawel wrth eu bodd ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed dros Y Fflint (Ffl 0-1 Llan).
Mae amddiffyn Llansawel wedi bod yn effeithiol hyd yn hyn, gan ildio dim ond tair gôl mewn pedair gêm gynghrair, tra mai'r fuddugoliaeth yn Y Fflint oedd eu llechen lân gyntaf y tymor yma.
Nid yw'r Cochion wedi colli unrhyw un o'u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd (3 buddugoliaeth, 2 gêm gyfartal), ond bydd yn rhaid iddynt gadw eu cyn-chwaraewr Jasper Payne yn dawel, sy'n gyd-sgoriwr uchaf y gynghrair gyda phedair gôl.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅✅❌❌
Briton Ferry Llansawel: ͏✅➖❌͏✅
Pen-y-bont (3ydd) v Y Fflint (13eg) | Dydd Gwener – 19:45
Mae Pen-y-bont yn un o dri thîm heb golli ar ôl pedair gêm a bydd yr Adar Gleision yn gobeithio cynnal y record honno ddydd Gwener.
Ar y llaw arall, mae'r Fflint wedi cael dechrau anodd i'r tymor, gyda gôl nodedig Jack Thorn yn rhwyd ei hun y penwythnos diwethaf yn crynhoi'r tymor hyd yma (Ffl 0-1 Llan).
Ac nid yw pethau'n mynd yn haws i dîm Lee Fowler wrth iddynt baratoi i wynebu Cei Connah (cartef), Tref Caernarfon (oddi cartref), Met Caerdydd (cartref) a'r Seintiau Newydd (oddi cartref) yn eu pedair gêm nesaf.
Bydd Pen-y-bont yn ceisio dial ar Y Fflint ar ôl iddynt guro tîm Rhys Griffiths yng Nghwpan Cymru ar giciau o'r smotyn yn dilyn 90 munud di-sgôr yng nghyfarfod olaf y timau ym mis Rhagfyr.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏ ➖✅✅✅
Y Fflint: ͏❌❌❌❌
Trefelin (16eg) v Rhydaman (12fed) | Dydd Gwener – 19:45
Mae dechrau truenus Trefelin yn parhau, gyda'r pencampwyr deheuol ar waelod y tabl ar ôl colli eu pedair gêm hyd yn hyn, heb sgorio gôl.
Nid yw wedi bod yn ddechrau llawer gwell i Rydaman, sydd wedi casglu un pwynt yn unig o'u pedair gêm gyntaf.
Enillodd Trefelin eu dau gyfarfod cynghrair yn erbyn Rhydaman yn yr ail haen y tymor diwethaf, heb ildio gôl (Tfl 2-0 Aman, Aman 0-4 Tfl).
Bydd y ddau glwb yn awyddus iawn i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y brif adran yn y frwydr fawr hon rhwng y chwech isaf.
Record cynghrair diweddar:
Trefelin: ͏❌❌❌❌
Rhydaman: ͏❌➖❌❌
Treffynnon (15fed) v Caernarfon (6ed) | Dydd Gwener – 19:45
Mae Treffynnon yn dal i aros am eu pwynt cyntaf ers dyrchafiad yn dilyn eu colled gartref ddiweddaraf yn erbyn Y Barri (Treff 1-3 Barr).
Mae Caernarfon wedi symud i'r chwech uchaf ar ôl buddugoliaeth yn Nhrefelin ddydd Gwener (Tref 0-2 Cfon), a bydd Richard Davies yn gobeithio am ganlyniad tebyg yn erbyn un arall o'r newydd-ddyfodiaid y penwythnos hwn.
Mae gan Dreffynnon y record amddiffynnol waethaf yn y gynghrair ar ôl ildio 15 gôl mewn pedair gêm hyd yn hyn (3.75 gôl y gêm).
Nid yw Treffynnon erioed wedi curo Caernarfon (2 gêm gyfartal, 5 colled), er bod angen ciciau o'r smotyn ar y Cofis i drechu Treffynnon yn nhrydydd rownd Cwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Tref Treffynnon: ͏❌❌❌❌
Tref Caernarfon: ͏✅❌͏✅✅
Y Barri (1af) v Airbus UK (11eg) | Dydd Gwener – 19:45
Y Barri sy'n arwain y gynghrair ar ôl pedair buddugoliaeth ar ddechrau'r tymor, sy'n record nodedig o ystyried faint o'u chwaraewyr allweddol a symudodd ymlaen dros yr haf.
Bydd Steve Jenkins yn awyddus i barhau â'r dechrau rhagorol yn erbyn Airbus, ac yna taith i Lansawel, cyn teithio i Groesoswallt i wynebu'r Seintiau Newydd ar 5 Medi.
Er gwaethaf ennill hanner eu gemau hyd yn hyn a ildio llai nag un gôl y gêm, mae Airbus wedi llithro i'r chwech isaf ar ôl colli o 1-0 ym Mae Colwyn.
Mae'r Barri wedi ennill eu dwy gêm flaenorol yn erbyn Airbus, y ddau ar ddechrau tymor 2019/20 (Air 0-1 Barr, Barr 2-0 Air).
Record cynghrair diweddar:
Barry Town United: ͏✅✅✅✅
Airbus UK: ͏✅❌✅❌
Y Seintiau Newydd (2il) v Bae Colwyn (9fed) | Dydd Gwener – 19:45
Ar ôl dechrau eithaf tawel, roedd Y Seintiau Newydd o'r diwedd yn ôl i'w hen driciau ddydd Gwener diwethaf wrth iddynt guro Met Caerdydd yn y brifddinas (Met 0-5 YNS).
Mae'r pencampwyr wedi cadw pedair llechen lân mewn pedair gêm ac maent yn un o dri thîm sydd eto i golli gêm gynghrair.
Mae Bae Colwyn yng nghanol y tabl ar ôl trechu Airbus, ond mae rhai gemau anodd ar y gweill yn yr wythnosau nesaf: Llandudno (cartref), Pen-y-bont (oddi cartref), Cei Connah (cartref).
Bae Colwyn oedd yr enillwyr yn y cyfarfod diweddaraf rhwng y ddau dîm, gan ennill 0-2 yn Neuadd y Parc ym mis Mawrth i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ͏͏➖✅✅✅
Bae Colwyn: ͏✅➖❌✅