Penodi arbenigwr i adolygu cyfraddau busnes tafarndai a gwestai
Mae’r Trysorlys wedi penodi arbenigwr i edrych ar sut mae cyfraddau busnes yn cael eu cyfrifo ar gyfer tafarndai a gwestai er mwyn cyflwyno argymhellion i ddiwygio’r system.
Bydd Jerry Schurder, cyn-arbenigwr polisi cyfraddau busnes yn arwain yr adolygiad annibynnol ac yn adrodd yn ôl i’r Trysorylys erbyn diwedd mis Mawrth 2027.
Mae Llywodraeth y DU yn galw am dystiolaeth gan landlordiaid, bragwyr, pobl sy'n rhedeg gwestai a pherchnogion busnes.
Daw hyn wedi i Lywodraeth San Steffaan gyhoeddi toriad 20% mewn trethi i dafarndai a chlybiau yn Lloegr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Rhif 10 y bydd yn cyflwyno diwygiadau yn cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bychain yn y Gyllideb.
Dywedodd Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys James Murray: “Mae tafarndai a gwestai yn hanfodol ar gyfer cymunedau a dod â thwf i bob côd post.
“Fis diwethaf fe wnaethom gyhoeddi toriadau trethi ar gyfer tafarndai i roi lle iddyn nhw anadlu. Heddiw rydym yn mynd ymhellach gan ail-edrych ar gyfraddau – fel ein bod ni yn gallu adeiladu system deg ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Emma McClarkin, prif weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain: “Am flynyddoedd mae tafarndai wedi cael biliau ardrethi busnes sydd yn sylweddol uwch, ac sydd wedi amharu ar eu gallu i gadw’r drysau ar agor, felly mae yna angen mawr ar gyfer yr adolygiad yma ac mae’n cael ei groesawu yn fawr.”
Ychwanegodd Syr Mel Stride, Canghellor Cysgodol y Trysorlys y byddai'r Ceidwadwyr yn cael gwared ag ardrethi busnes ar gyfer miloedd o fusnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden.
Dywedodd Daisy Cooper o'r Democratiaid Rhyddfrydol: “Ni all hyn fod yn esgus dros beidio ȃ chymryd camau mwy beiddgar a brys i achub ein strydoedd nawr.”
“Mae diwygio sylfaenol ar gyfraddau busnes wedi bod yn hwyr iawn.”
