Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ym Mhort Talbot

Ffordd yr Harbwr Port Talbot

Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ym Mhort Talbot, yn ôl yr heddlu.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i leoliad y gwrthdrawiad ar Ffordd yr Harbwr yn y dref tua 14.00 ddydd Sadwrn ynghyd â pharafeddygon.

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys dau yrrwr beic modur. Bu farw un ohonynt - dyn 40 oed o Ben-y-bont ar Ogwr - yn y fan a’r lle.

Cafodd y ffordd ei chau i’r ddau gyfeiriad am tua 15 awr rhwng Ffordd y Doc a chyffordd yr A48, gan gael ei hailagor am 06.00 fore Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 14.15 ddydd Sadwrn, 22 Awst, yn dilyn gwrthdrawiad ffordd rhwng dau feic modur ar Ffordd yr Harbwr, Port Talbot.

"Bu farw un o’r gyrrwyr beic modur, dyn 40 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, yn y fan a’r lle. 

"Mae ei deulu’n cael cymorth gan swyddogion arbenigol."

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.