'Seiber-ymosodiad gan Iran' wedi arwain at gau gorsaf bŵer yn y DU dros dro

Peilonau

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod seiber-ymosodiad wedi arwain at gau gorsaf bŵer fach yn y DU dros dro fis diwethaf.

Roedd hacwyr â chysylltiadau â chyfundrefn Iran y tu ôl i’r ymosodiad, a barhaodd am bedwar diwrnod, yn ôl papur newydd y Telegraph.

Ychwanegodd y papur newydd fod y digwyddiad wedi digwydd yr un pryd â chyfres o ymosodiadau ar seilwaith dŵr yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod “generadur ynni ar raddfa fach” wedi cael ei effeithio, ac nad oedd y system ynni ehangach y DU wedi bod mewn perygl.

Ni wnaeth y Llywodraeth ddatgelu pa safle gafodd ei effeithio.

Wrth ymateb i'r ymosodiad, fe wnaeth yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net roi gwybodaeth i benaethiaid y sector ynni ac ysgrifennu at gwmnïau gyda chyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae gan y DU system ynni wydn iawn. 

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r sector ynni i ddiogelu seilwaith a sicrhau’r safonau diogelwch uchaf.

“Mae’r stori hon yn cyfeirio at ddigwyddiad a effeithiodd ar un generadur ynni ar raddfa fach. Nid oedd y system ynni ehangach mewn perygl ar unrhyw adeg.”

Cafodd y digwyddiad ei adrodd i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy’n rhan o GCHQ, yn ôl y Telegraph.

Mae’n debyg na chafodd yr NCSC unrhyw adroddiadau am doriadau i’r cyflenwad mewn cysylltiad â’r seiber-ymosodiad.

Mae’r ganolfan wedi rhybuddio o’r blaen am batrwm o weithgarwch seiber aflonyddgar gan wladwriaethau a grwpiau eraill sy’n targedu sefydliadau yn y DU.

Fe wnaeth pennaeth yr NCSC, Richard Horne, rybuddio yn gynharach eleni fod gwladwriaethau gelyniaethus, gan gynnwys Iran, yn targedu seilwaith y DU yn gynyddol drwy ymosodiadau ar-lein.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.