'Cwmderi yn gweld ishe ei theyrngarwch': Teyrngedau i'r actores Bet Jones yn dilyn ei marwolaeth
Mae ffrindiau a chyn-gydweithwyr yr actores Bet Jones wedi rhoi teyrngedau iddi yn dilyn ei marwolaeth yn 76 oed.
Roedd Bet Jones, neu ‘Bet Fach’, wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar lwyfannau Cymru ers degawdau.
Roedd yr actores o Sir Gâr yn fwyaf adnabyddus i gynulleidfaoedd fel un o drigolion Cwmderi yn Pobol y Cwm.
Ar ôl gweithio fel ecstra ar ffilmiau ers 1982, cafodd gynnig cytundeb chwe mis ar y gyfres yn 1997.
Yn dilyn y cytundeb hwnnw, roedd yn rhan o'r gyfres am flynyddoedd wedyn.
Wrth roi teyrnged iddi ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr actor a'r canwr Emyr Wyn, sydd yn chwarae cymeriad Dai 'Sgaffalde' yn Pobol y Cwm, bod ei marwolaeth yn "golled enfawr arall i'r ardal".
"Mi fydd trigolion Cwmderi yn gweld ise ei theyrngarwch, ei hagwedd broffesiynol a'i gwen gyson dros ddegawde lawer," meddai.
Dywedodd Gwyn Elfyn, a oedd yn chwarae rhan y perchennog siop Denzil Rees, wrth Newyddion S4C ei bod yn "gymeriad annwyl a chyfeillgar iawn".
"Roedd Bet yn un hawdd i neud efo hi, yn y gwaith neu'n gymdeithasol," meddai.
"Roedd ei chyfraniad hi'n fawr yn ardal Caerfyrddin i bobl ifanc ac i fyd cerdd dweud y gwir.
"Roedd hi'n ddynes hyfryd, ac mae'n golled fawr i'r teulu yn fwy na neb arall wrth gwrs - ond yn golled i ni gyd yn ardal Caerfyrddin."
'Ffrind annwyl'
Cafodd Bet Jones ei geni wrth droed y Mynydd Du yng Ngwynfe, cyn i’w theulu symud i Dalyllychau pan oedd hi’n ifanc.
Roedd perfformio wedi bod yn rhan o’i bywyd ers yn blentyn, gan gystadlu mewn cystadlaethau canu ac adrodd mewn eisteddfodau.
Yn y 1970au, bu’n canu’n rheolaidd yn Hwyrnos Plas Glansevin, ac yn 1981 sefydlodd y grŵp gwerin Dwy a Dime.
Bu’r grŵp yn perfformio ledled Cymru ac yn ymddangos ar raglenni fel Taro Tant, Noson Lawen a Heno, yn ogystal â rhyddhau LP.
Roedd gwaith gyda phlant a’r gymuned hefyd yn bwysig iawn iddi.
Bu’n weithgar gydag Adran Ffynnonddrain a Chapel Elim, gan helpu plant i ddatblygu eu hyder drwy ganu a drama.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd yr Adran: "Newyddion trist iawn o glywed am farwolaeth sydyn Bet Jones, sylfaenydd yr Adran.
"Roedd Bet yn browd iawn o'r Adran ac wastad yn danfon neges i ddymuno'n dda ac i longyfarch yr Adran."