‘Risg sylweddol’ na fydd awdurdod tân ac achub yn gallu ariannu gwelliannau £19.4 miliwn
Mae yna “risg sylweddol” na fydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn gallu ariannu gwelliannau £19.4m i’w gwasanaethau, yn ôl adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Daw’r adroddiad wedi cyfnod cythryblus i’r gwasanaeth tân yn 2024. Bryd hynny, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddisodli cynghorwyr a oedd yn aelodau o’r Awdurdod â phedwar comisiynydd.
Mae’r Awdurdod yn amcangyfrif y gallai gostio £19.4m i gyrraedd ei nod o ran trawsnewid Gasanaeth Tân De Cymru.
Ond dim ond £17.6m oedd cyfanswm cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy a oedd gan yr Awdurdod ar ddiwedd 2024-25, meddai Archwilio Cymru.
“Lle mae’r Awdurdod wedi ceisio amcangyfrif rhai costau, nid yw’n glir sut y bydd yn eu hariannu,” meddai’r adroddiad.
“Er enghraifft, fe amcangyfrifodd fod costau cyrraedd ei nodau trawsnewid yn £19.4m.
“Mae hyn yn fwy na’r £17.6m o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy na chyfyngir arnynt gan y gyfraith a oedd gan yr Awdurdod ar ddiwedd 2024-25.
“O ganlyniad, mae risg sylweddol nad oes modd cyflawni ei gynlluniau.”
Y cefndir
Yn 2024, fe gafodd adolygiad allanol ei gynnal i Wasanaeth Tân De Cymru yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol a cham-drin menywod gan ddiffoddwyr tân.
Cafodd 450 aelod o staff a 60 o gyn-aelodau'r gwasanaeth eu holi fel rhan o'r adolygiad.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad ym mis Ionawr bod "diffygion difrifol" yn y gwasanaeth, gan gynnwys cyfathrebu, systemau, polisïau a gweithdrefnau gwael; modelau rôl annigonol gan arweinwyr a rheolwyr; a diffyg tryloywder mewn gweithdrefnau recriwtio a dyrchafu.
Ychwanegodd yr adroddiad hefyd bod diffyg amrywiaeth o fewn y gwasanaeth.
Roedd ymddygiad problematig hefyd yn cael ei ddioddef, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, cam-drin domestig ac ymddygiad ymosodol corfforol y tu allan i'r gwaith; bwlio, banter niweidiol, cam-drin cyffuriau ac alcohol, ac ymyrraeth amhriodol â gweithdrefnau.
'Angen bod yn glir'
Dywedodd Archilio Cymru bod Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi gwneud dechrau cadarnhaol o ran ymdrin â phryderon ynghylch ei ddiwylliant, ei berfformiad a’i drefniadau llywodraethu a nodwyd mewn adroddiadau allanol diweddar.
Ond nawr mae angen iddo ddangos sut y bydd yn ariannu gwelliannau pellach, ac a yw’n cyflawni deilliannau gwell i gymunedau ledled De Cymru, meddai.
Mae adroddiad newydd gan Archwilio Cymru, Cyflawni newid, mesur effaith?, yn bwrw golwg ar y camau y mae’r Awdurdod wedi eu cymryd i sicrhau gwelliant parhaus ers ymyrraeth Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024.
Ers hynny, mae pedwar comisiynydd wedi bod yn goruchwylio’r Awdurdod, a hwythau wedi disodli’r cynghorwyr a enwebwyd gan gynghorau.
Mae eu gwaith wedi cael ei lywio gan gylch gorchwyl a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac wedi bod yn canolbwyntio ar ymdrin â’r 174 o argymhellion a wnaed gan gyfres o adroddiadau allanol.
Dywedodd Catherine Mealing-Jones, Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Rwyf wedi fy nghalonogi bod yr Awdurdod wedi gweithredu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd ynghylch ei ddiwylliant a’i berfformiad.
“Ac rwy’n cydnabod ymrwymiad staff sy’n parhau i ddarparu gwasanaeth hollbwysig i gymunedau ledled de Cymru.
“Mae’r Awdurdod wedi gwneud dechrau da, ond rhaid iddo ddangos yn awr bod ei raglen wella’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl leol ac yn cyflawni gwerth am arian trethdalwyr.
“Mae hynny’n golygu bod yn glir ynghylch ei flaenoriaethau, deall costau hynny a dangos sut y mae newid yn gwella deilliannau.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Tân ac Achub De Cymru: “Mae’r Awdurdod wedi gweithio’n agos gydag Archwilio Cymru drwy gydol y broses archwilio.
“Mae swyddogion o’r Gwasanaeth wedi darparu’r wybodaeth a’r dystiolaeth angenrheidiol i sicrhau bod yr archwiliad yn gadarn. Mae archwiliadau allanol wedi cael eu nodi fel rhan annatod o daith wella’r Awdurdod.
“Felly, mae’r Awdurdod yn croesawu’r archwiliad sydd newydd gael ei gyhoeddi ac yn parhau i werthfawrogi’r cyfle i weithio’n agos gydag Archwilio Cymru.
“Ar ôl cyhoeddi adroddiad Archwilio Cymru, mae’r broses archwilio ffurfiol bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod ddarparu ymateb gan y rheolwyr sy’n amlinellu sut y bydd yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith.
“Bydd Archwilio Cymru yn adolygu’r ymateb er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer Archwilio. Cam olaf y broses fydd i Archwilio Cymru a’r Awdurdod gyflwyno a thrafod yr archwiliad, ynghyd â chynllun arfaethedig yr Awdurdod i fynd i’r afael â’r argymhellion, yng nghyfarfod cynharaf posibl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.”
