‘Nifer o bobl’ wedi marw mewn gwrthdrawiad yn cynnwys car heddlu yng ngogledd Lloegr

Yr A66 ger South Bank

Mae “nifer o bobl” wedi marw mewn gwrthdrawiad oedd yn cynnwys car heddlu yng ngogledd Lloegr.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A66 ger South Bank yng ngogledd Swydd Efrog am 03:39 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Cleveland mewn datganiad bod car heddlu a Volkswagen Passat wedi gwrthdaro.

“Yn anffodus, mae nifer o bobl wedi marw o ganlyniad i’r gwrthdrawiad,” meddai'r llu.

“Mae nifer sylweddol o gerbydau’r gwasanaethau brys yn y lleoliad a bydd y ffordd ar gau am gryn amser.

“Rydym yn gofyn i’r cyhoedd ddefnyddio llwybrau eraill.

“Rydyn ni’n gweithio i adnabod y dioddefwyr a chysylltu â’u teuluoedd. 

“Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym ac rydyn ni’n gofyn yn barchus i aelodau’r cyhoedd beidio â dyfalu.”

Mae'r ffordd ar gau yn y ddau gyfeiriad wrth i'r ymchwiliad barhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd-ddwyrain Lloegr:

“Cawsom ein galw am 03:39 ar 22 Awst i ddigwyddiad traffig difrifol a oedd yn ymwneud â thri cherbyd ar yr A66 yn South Bank.

“Fe wnaethom anfon 14 o adnoddau ambiwlans i’r lleoliad. Roedd y rhain yn cynnwys criwiau ambiwlans brys, parafeddyg arbenigol, ein tîm ymateb i ardaloedd peryglus a meddyg o Wasanaeth Ambiwlans Awyr Great North.

“Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb yn y lleoliad, bu farw nifer o gleifion yno.

“Rydyn ni’n cydymdeimlo â phawb sydd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiad mor drasig. Rydyn ni hefyd yn diolch i bawb am bopeth a wnaethant i helpu.”

Llun: Yr A66 ger South Bank

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.