‘Pwysau ariannol sylweddol’: Caerdydd yn wynebu’r bwlch cyllidebol mwyaf yng Nghymru erbyn 2027
Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd wynebu’r bwlch cyllidebol mwyaf o blith holl awdurdodau lleol Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2027/28.
Mae dadansoddiad gan bartneriaeth newyddion lleol y BBC yn rhagweld bwlch o £43.8 miliwn yng nghyllideb y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dyma’r bwlch mwyaf sy’n cael ei ragweld ar gyfer unrhyw gyngor yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor wrth ymateb i’r ffigur eu bod nhw’n wynebu “pwysau ariannol sylweddol”.
Bwlch cyllidebol yw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae cyngor yn disgwyl ei wario a faint o arian y mae’n disgwyl ei dderbyn.
Fel arfer, mae cynghorau’n cau’r bwlch drwy wneud arbedion, cynyddu incwm neu ddefnyddio cyllid gan y llywodraeth.
Mewn rhai achosion, maen nhw hefyd yn defnyddio arian o’u cronfeydd wrth gefn.
Cyn blwyddyn ariannol 2026/27, roedd Cyngor Caerdydd yn wynebu bwlch o £22.7 miliwn. Cafodd hwn ei gau drwy wneud arbedion a chynyddu’r dreth gyngor 3.9%.
Y flwyddyn cyn hynny, roedd y cyngor yn wynebu bwlch o £27.7 miliwn. Cafodd hwnnw ei gau drwy ddefnyddio dulliau tebyg.
Cyngor Sir Gâr sydd â’r ail fwlch mwyaf a ragwelir ar gyfer 2027/28, sef £34 miliwn. Cyngor Sir y Fflint sydd nesaf, gyda bwlch o £26.6 miliwn.
Mae Caerdydd yn bwriadu gwneud mwy o arbedion nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru yn ystod 2026/27. Mae disgwyl iddo geisio arbed cyfanswm o £14.78 miliwn.
Er mai Caerdydd sydd â’r cyfanswm mwyaf, yno y mae’r arbedion lleiaf fesul unigolyn o blith cynghorau Cymru. Mae’r ffigur yn £38.50 y pen.
Cyngor Powys sydd â’r arbedion mwyaf fesul unigolyn, sef £88.82 y pen. Ond mae poblogaeth Powys yn llawer llai na phoblogaeth Caerdydd, sydd â’r boblogaeth fwyaf yng Nghymru.
‘Maint yr her’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae’n bwysig nodi nad oes bwlch yng nghyllideb bresennol Cyngor Caerdydd. Mae’r cyngor wedi cytuno ar gyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27.
“Roedd y cyngor wedi wynebu bwlch sylweddol oherwydd bod y galw a’r costau’n cynyddu. Roedd hyn yn arbennig o wir ym meysydd gofal cymdeithasol, addysg a darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
“Cafodd y bwlch hwnnw ei gau drwy gyfuniad o arbedion effeithlonrwydd, incwm ychwanegol a chynnydd yn y dreth gyngor. Roedd hefyd yn cynnwys defnydd arfaethedig o’r cronfeydd wrth gefn.
“Fe wnaeth y cyngor gymeradwyo cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27 ar ôl cynnal ymgynghoriad ledled y ddinas.
“Cyngor Caerdydd yw’r awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru. Mae’n wynebu pwysau ariannol sylweddol oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau a’r gost o’u darparu.
“Yn ystod 2026/27 yn unig, fe wnaeth cost darparu gwasanaethau gynyddu £56.2 miliwn. Ar yr un pryd, cafodd Caerdydd gynnydd o 4.2% yn ei gyllid gan Lywodraeth Cymru.
“Mae’r angen i arbed £14.78 miliwn yn ystod 2026/27 yn adlewyrchu maint yr her sy’n wynebu cyngor o faint Caerdydd.”
Dywedodd y cyngor fod y rhaglen arbedion yn canolbwyntio ar fesurau effeithlonrwydd, arbedion drwy newid rhaglenni a chynhyrchu incwm ychwanegol. Dywedodd na fyddai gwasanaethau rheng flaen yn cael eu torri.
Mae cyllideb 2026/27 yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol sylweddol mewn ysgolion a gwasanaethau i blant ac oedolion agored i niwed, medden nhw. Mae hefyd yn cynnwys arian ar gyfer gwella cymdogaethau a chadw strydoedd yn lanach.
Ychwanegodd y cyngor: “Wrth edrych tua’r dyfodol, mae cynghorau ledled Cymru yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol. Mae chwyddiant, galw cynyddol a gwasanaethau sy’n mynd yn fwy cymhleth yn cyfrannu at hyn.
“Bydd Cyngor Caerdydd yn parhau i geisio mynd i’r afael â’r heriau hyn. Bydd yn gwneud hynny drwy raglenni trawsnewid, mesurau effeithlonrwydd a chynllunio ariannol gofalus.
“Bydd hefyd yn parhau i drafod cyllid cynaliadwy i lywodraeth leol gyda Llywodraeth Cymru.
“Y bwriad yw osgoi lleihau gwasanaethau craidd. Ond oherwydd maint y bwlch, ni ellir diystyru hynny ar hyn o bryd.”
‘Cytbwys’
Dywedodd y cyngor hefyd y byddai’n parhau i fuddsoddi yn y ddinas drwy ei raglen gyfalaf gwerth £1.47 biliwn. Mae’r rhaglen yn cefnogi tai, addysg, seilwaith ac adfywio.
Ychwanegodd: “Mae’n bwysig deall y ffigurau am fylchau cyllidebol yn eu cyd-destun priodol.
“Maen nhw’n cynrychioli’r her ariannol y mae’n rhaid mynd i’r afael â hi wrth bennu’r gyllideb. Nid ydyn nhw’n golygu bod bwlch yn y gyllideb bresennol.
“Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar gyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27.
“Bydd y gwaith yn parhau yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon i lunio pecyn o gynigion ar gyfer 2027/28.
“Bydd angen i’r cynigion sicrhau cyllideb gytbwys a mynd i’r afael â’r bwlch presennol a ragwelir o £43.8 miliwn.”