Merch chwech oed wedi marw yn yr ysbyty wedi i'w rhieni a'i chwaer foddi

22/08/2026
Marwolaethau Sussex

Mae merch chwech oed wedi marw yn yr ysbyty ar ôl iddi gael ei thynnu o’r môr yng Ngorllewin Sussex wedi i dri aelod o’i theulu foddi.

Bu farw Saja El-Khawas ddydd Gwener. 

Roedd ei chwaer Sara El-Khawas, 14 oed, a’i rhieni Hassan El-Khawas, 55 oed, a Zeina Alayn, 37 oed, wedi marw brynhawn Mawrth yn Shoreham-by-Sea.

Roedd Saja wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ers y digwyddiad.

Dywedodd llysgenhadaeth Palestina fod Mr El-Khawas yn ffoadur Palesteinaidd o Wersyll Rashidieh yn Libanus.

Mae Gwersyll Rashidieh ar arfordir Môr y Canoldir yn ne Libanus ac mae’n un o’r gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd mwyaf poblog yn y wlad.

Y gred yw bod y teulu wedi teithio o’u cartref yn Llundain i ymweld â Shoreham. Fe aethon nhw i mewn i’r dŵr o’r traeth tua 14:00, cyn mynd i drafferthion.

Ddydd Mercher, dywedodd Heddlu Sussex fod yr ymchwiliad yn parhau. 

Ond ar ôl adolygu lluniau teledu cylch cyfyng a chyfrifon cychwynnol tystion, y gred ar hyn o bryd yw mai damwain drasig oedd y marwolaethau ac nad oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig.

'Torcalonnus'

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd James Collis: “Dyma’r newyddion torcalonnus yr oeddem i gyd wedi ei ofni ar ôl digwyddiadau trasig dydd Mawrth.

“Ni allaf ddychmygu’r dinistr y mae teulu ehangach Hassan, Zeina, Sara a Saja yn ei deimlo ar ôl y golled hon. Ar ran pawb yn Heddlu Sussex, rydyn ni’n cydymdeimlo’n ddwys â nhw.

“Mae effaith y drasiedi hon wedi ei theimlo ar draws y wlad. Rwy’n gwybod y bydd cymuned Shoreham, y gwasanaethau brys a phawb a oedd yn gysylltiedig yn parhau i deimlo’r effaith am amser hir.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhannu eu cydymdeimlad a’u geiriau caredig. Unwaith eto, rwy’n gofyn i bobl adael i deulu ac anwyliaid y dioddefwyr alaru’n breifat.”

Fe wnaeth Ysgol Ellen Wilkinson i Ferched roi teyrnged ar ei gwefan ddydd Iau i Sara, a oedd ym Mlwyddyn 8, ar ôl y “digwyddiad trasig” yn ystod gwyliau’r haf.

Dywedodd yr ysgol, ym mwrdeistref Ealing yn Llundain: “Roedd Sara yn ferch annwyl, ac roedd staff a disgyblion yn hoff iawn ohoni. Bydd colled fawr ar ei hôl.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwys gyda’i theulu, ei ffrindiau a phawb sydd wedi eu heffeithio.

“Bydd y newyddion hwn yn peri gofid mawr i lawer o ddisgyblion, teuluoedd ac aelodau staff.”

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd llysgenhadaeth Palestina ei bod yn “cadw golwg agos ar y digwyddiad”.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.