Tad-cu Finlay Tarling wedi marw ddyddiau ar ôl damwain angheuol ei ŵyr

Gerald Tarling
Gerald Tarling

Mae tad-cu y seiclwr o Gymru, Finlay Tarling, wedi marw ddyddiau'n unig ar ôl damwain angheuol ei ŵyr.

Fe wnaeth y teulu gyhoeddi'r newyddion trist am farwolaeth Gerald Tarling ar y cyfryngau cymdeithasol, ychydig ddyddiau yn unig wedi i Finlay, a oedd yn 19 oed, gael ei ladd mewn ras ym Mhortiwgal.

"Gyda chalonnau trwm iawn, mae’n rhaid i ni roi gwybod i bobl am farwolaeth Gerald Tarling," meddai’r teulu yn y neges.

"Fel teulu, mae hi wedi bod yn wythnos erchyll, ond rydyn ni’n gwybod ei fod yn gofalu am Finlay Tarling nawr."

Roedd Finlay yn rasio dros ei dîm NSN Development Team yn y Volta a Portugal ar 14 Awst pan gafodd ei daro gan gerbyd nad oedd yn rhan o’r ras.

Mae marwolaeth y seiclwr addawol, oedd yn dod o Ffos-y-ffin ger Aberaeron, wedi ennyn llu o deyrngedau teimladwy o fewn y gymuned beicio, yn ogystal â chynddaredd ynghylch amgylchiadau’r gwrthdrawiad.

Image
Fin Tarlin gyda'i rieni
Finlay gyda'i rieni, Dawn a Michael Tarling

Ddydd Iau, cyhoeddodd rhieni’r brodyr Tarling y byddai Josh, sy’n 22 ac yn rhan o dîm Netcompany-Ineos, yn cymryd rhan yn y ras daith sy’n cychwyn yn Sbaen dros y penwythnos.

"Bydd Joshua yn reidio yn y Vuelta ddydd Sadwrn," meddai eu mam, Dawn Tarling, ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae e wedi penderfynu gwneud hynny i anrhydeddu ei frawd, Fin, gyda chefnogaeth lawn ei deulu a thîm o’i gwmpas sydd wedi bod yn arbennig o gefnogol o beth bynnag fyddai ei benderfyniad."

'Dyddiau anoddaf ein bywydau'

Yn dilyn marwolaeth Finlay, dywedodd ei dad Michael Tarling fod y teulu'n profi "dyddiau anoddaf ein bywydau".

Dywedodd fod y gefnogaeth i'w deulu wedi'r farwolaeth wedi eu cynnal, gan gynnwys "negeseuon, e-byst, erthyglau a galwadau gan ein teulu, ffrindiau, y tîm, a’n cymunedau lleol a chwaraeon".

"Mae clywed faint o gariad ac edmygedd oedd gan bobl tuag at Fin wedi bod o gymorth mawr i ni," meddai.

"Ni allwn ddiolch digon i chi i gyd am y gefnogaeth rydym wedi ei gael. Dydyn ni ddim yn gwybod sut y byddwn yn symud ymlaen o hyn ymlaen, ond byddwn yn darganfod y ffordd gyda chefnogaeth ein teulu, ein ffrindiau a’n cymuned gyfan.

"Er na fydd ein calonnau sydd wedi eu torri byth yn gwella’n llwyr, roedd o nid yn unig yn fab ac yn frawd i ni, ond yn ffrind gorau hefyd. 

"Byddwn yn gweld ei eisiau yn aruthrol - roedd yn berson tyner a chariadus, gyda synnwyr digrifwch sych ac unigryw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.