Cambrian News i godi tâl am ddarllen ei newyddion ar-lein

Llun: Cambrian News
Cambrian News

Bydd darllenwyr y Cambrian News yn gorfod talu i ddarllen ei gynnwys ar-lein o fis Hydref ymlaen.

O 1 Hydref, bydd angen talu i ddarllen cynnwys newyddion y papur ar-lein, ond bydd y papur print yn parhau i gael ei gyhoeddi fel arfer.

Nid yw pris terfynol y gwasanaeth wedi cael ei gadarnhau, ond mae’r Cambrian News yn dweud ei bod yn debygol y bydd tanysgrifiad yn costio £4.99 y mis neu £54.99 y flwyddyn.

Dywedodd Golygydd y Cambrian News, Mick O’Reilly, fod y newid yn rhan o ymdrechion i sicrhau dyfodol cynaliadwy i newyddiaduraeth leol.

Bydd eithriadau i’r system danysgrifio mewn amgylchiadau penodol, gan gynnwys newyddion mawr sy'n torri, tywydd garw a digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch y cyhoedd.

Mae’r Tenby Observer, sy’n chwaer bapur i’r Cambrian News, hefyd yn bwriadu cyflwyno system danysgrifio cyn diwedd mis Tachwedd.

Mae’r ddau bapur yn eiddo i Iliffe Media, sy’n berchen ar nifer o bapurau newydd rhanbarthol ledled y DU ac Ynys Manaw.

'Newid y tu hwnt i adnabyddiaeth'

Daw’r penderfyniad wrth i’r diwydiant papurau newydd lleol wynebu newidiadau sylweddol yn y ffordd mae pobl yn cael eu newyddion.

Yn ôl ymchwil gan Press Gazette, fe wnaeth 22 o bapurau newydd print lleol gau ar draws y DU rhwng mis Awst 2022 ac Awst 2024.

Roedd hynny’n golygu bod o leiaf 293 o bapurau newydd lleol wedi cau ers 2005, yn ôl yr ymchwil.

Wrth gyhoeddi’r newid, dywedodd Mr O’Reilly ei fod wedi gweld newid sylweddol yn y diwydiant yn ystod ei yrfa.

“Pan ddechreuais i yn y diwydiant, roedd papurau newydd yn weithrediadau enfawr oedd yn cyflogi pobl mewn ystod eang o swyddi arbenigol,” meddai.

“Mae’r ffordd mae darllenwyr yn cael mynediad at newyddiaduraeth wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth.

“Eto i gyd, mae un peth wedi aros yn gyson: mae’r awydd am newyddion lleol dibynadwy mor gryf ag erioed.”

Yn ôl Mr O’Reilly, er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu cylchrediad print, mae cynulleidfa ddigidol y Cambrian News yn "fwy nag erioed."

Ychwanegodd fod cost ynghlwm â chynhyrchu newyddiaduraeth leol, gan gyfeirio at waith newyddiadurwyr yn craffu ar gyrff cyhoeddus, mynychu cyfarfodydd cynghorau a chyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth.

“Dydy straeon ddim yn ymddangos drwy hud,” meddai.

“Mae newyddiadurwyr yn gwrando ar gyfarfodydd cynghorau, yn craffu ar gyrff cyhoeddus, yn mynd ar drywydd ceisiadau rhyddid gwybodaeth, yn ymchwilio i gwynion, yn cyfweld â thrigolion, yn gwirio ffeithiau ac yn treulio oriau di-ri yn sicrhau bod gwybodaeth yn gywir a chytbwys.

“Mae gan y gwaith hwnnw werth.”

Cyfeiriodd hefyd at yr hyn sy’n cael ei alw yn “anialdiroedd newyddion” – ardaloedd lle nad oes fawr ddim, os o gwbl, o newyddiaduraeth leol annibynnol.

“Pan mae newyddiaduraeth leol yn diflannu, mae atebolrwydd yn aml yn diflannu gyda hi.”

Dywedodd fod y Cambrian News yn parhau i graffu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar gymunedau gorllewin Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.