Mam i ferch 12 oed aeth yn sownd o dan fws yn Nhwrci yn rhybuddio am bwysigrwydd yswiriant teithio

Emma Williams a'i theulu

Mae mam i ferch 12 oed o Gymru aeth yn sownd o dan fws yn Nhwrci am godi ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd o bwysigrwydd cael yswiriant teithio digonol wrth fynd ar wyliau tramor.

Fe aeth Emma Catherine Williams a'i theulu o'r Coed Duon yn Sir Caerffili ar eu gwyliau tramor cyntaf ar 15 Gorffennaf i Dwrci, ond fe drodd y gwyliau yn hunllef wedi i'r teulu fod yn rhan o ddamwain bws yn y wlad. 

Fe wnaeth bws oedd yn llawn twristiaid, gan gynnwys Emma a'i theulu, golli rheolaeth wrth ddod i lawr mynydd yn ardal Antalya o'r wlad ar 22 Gorffennaf. 

"Oedd gen y bws ddim ffenestri a nath y bws golli rheolaeth ... felly nath y bws rolio lawr part o’r mynydd," meddai Emma wrth Newyddion S4C. 

Fe aeth un o ferched Emma, Greta, 12 oed, yn sownd o dan y bws ac fe dorrodd ei phelfis chwith a'i sacrwm ar ei hochr dde. 

"Mae o’n deud bod o’n mynd i gymryd wyth wsos iddi allu cerdded yn iawn a chwe mis am full recovery," esboniodd Emma. 

Fe gafodd Greta ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans, gyda phartner Emma, Len, a'i merch arall, Eiriana, wyth oed, yn eu dilyn. 

"Gan bod na gymaint o language barrier doedd neb yn siarad Saesneg o gwbl, a oddan ni’n sownd am wyth diwrnod yn fana," meddai Emma. 

Image
Emma
Emma, Len, Greta ac Eiriana.

Mae Emma yn byw â rheumatoid athritis, cyflwr awtoimiwn sy'n achosi poen, chwydd a stiffrwydd yn y cymalau, a dim ond digon o feddyginiaeth ar gyfer y gwyliau oedd ganddi. 

A hwythau ar eu gwyliau tramor cyntaf, fe benderfynodd y teulu i ddewis pecyn yswiriant uwchraddol gyda chwmni yswiriant Zurich er mwyn lledfu eu hofnau. 

"Efo’r insurance, o'ddan nhw isio cadw ni yna am dair wsos so fysa ni dal yna rŵan heb i Len bwysleisio bo' ni angen cael hi adra achos bo' ni 'di talu am y package yna," meddai Emma. 

Roedd dychweliad brys diderfyn (unlimited emergency repatriation) yn rhan o'r pecyn yswiriant y gwnaeth y teulu ei ddewis.

"Gan bo' fi ddim efo meddyginiaeth fi, o'n i ‘di cymyd digon i gadw fi fynd tra oddan ni’n Twrci achos dwi ar biological injections, o'ddan nhw 'di deud bod o’n rhatach i fflio fi adra, 'nôl meddyginiaeth fi a fflio fi nôl i Twrci yn lle sortio fo yn fana. 

"Dwi yn dalld bod o’n meddyginiaeth drud ond o'n i methu gadael fy merch so o'dd raid i fi fynd heb i neud siŵr bo' fi efo hi."

Image
Greta awr cyn y ddamwain.
Greta awr cyn y ddamwain.

Dywedodd Emma ei bod hi'n teimlo y dylai cwmnïau yswiriant ei gwneud hi'n haws i deuluoedd sy'n wynebu sefyllfaoedd o'r fath. 

"Mae'r cwmni yswiriant yn disgwyl i bobl fel ni sydd yn y sefyllfa yma i fynd i gasglu'r adroddiad heddlu, yr adroddiad ambiwlans, ond pan 'dach chi mewn gwlad arall efo rhwystrau iaith, 'dach chi dim yn gwybod lle i fynd," meddai. 

"Fyswn i yn awgrymu i pawb, er bod o dal 'di bod yn anodd, alla i ddim dychmygu sut fysa fo os 'swn i ar ryw standard package a faint o anodd ‘sa fo di bod, odd y cwmni insurance isio ni aros am dair wsos tan o'dd Greta di gwella."

Ychwanegodd: "O'dda ni byth yn meddwl sa’m byd fel 'ma yn digwydd yn enwedig gwylia' cynta' ni ond pan 'dach chi angen fo, dylia fo fod ar gael heb goro cwffio mor galad pan 'dach chi mewn sefyllfa mor anodd.

"O'ddan ni’n goro cwffio yn ofnadwy o galed i ddod 'nôl yn gynt."

Image
Greta yn cryfhau yn yr ysbyty.
Greta yn cryfhau yn yr ysbyty.

Fe wnaeth y teulu hedfan adref ar 30 Gorffennaf, ac mae Greta bellach yn cryfhau adref. 

"Ma' hi’n oce, ma hi’n rili rili cryf, dydi hi ddim ar feddyginiaeth o gwbl ers 'chydig o wythnosau rŵan felly mae’n hynod gryf," meddai Emma.

"Ond ma' hi jyst yn anodd adaptio rili achos ma' hi dal angen bed rest ond ma' hynna reit anodd i hogan 12 oed pan ma' ffrindia hi gyd allan."

A hithau'n wyliau'r haf , mae Emma yn rhannu stori ei theulu er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd eraill. 

"Gan bod o’n height of season efo pobl yn mynd ar wylia', dwi’n meddwl mwy na’m byd na cael yr ymwybyddiaeth 'na am gael yr ysiwriant mor dda â phosib dwi'n trio ei wneud," meddai Emma. 

"Does na’m byd yn digwydd naw gwaith allan o 10, ond pan mae o yn digwydd, 'dach chi angen o fwy na’m byd. 

"'Swn i byth isio teulu arall gael profiad fel hyn, ma' hyn yn mynd i aros efo ni am byth."

Image
Mae Greta bellach yn cryfhau yn ôl adref yng Nghymru.
Mae Greta bellach yn cryfhau yn ôl adref yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Zurich UK: "Mae'n ddrwg iawn gennym glywed am y ddamwain yr oedd ein cwsmer a'u teulu yn rhan ohoni tra ar wyliau.

"Mae polisi Mrs Williams yn darparu dychweliad brys diderfyn (unlimited emergency repatriation) pan fo angen meddygol amdano neu pan na all cyfleusterau lleol ddarparu'r driniaeth ofynnol, nad oedd yn wir yn yr achos hwn.

"Fodd bynnag, fe gafodd y penderfyniad i hedfan y teulu adref ei wneud ar ôl i ni gael ein cynghori fod meddyginiaeth bresgripsiwn Mrs Williams yn prinhau ac y byddai'n anodd cael gafael arni dramor.  

"Yn dilyn cadarnhad meddygol bod Greta yn ffit i hedfan ar 28 Gorffennaf, fe wnaethom drefnu yn syth i'r teulu cyfan hedfan adref ar 30 Gorffennaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.