Ymchwiliad llofruddiaeth Gorseinon: Dau arall wedi eu cyhuddo o lofruddio
Mae dau ddyn arall wedi’u cyhuddo o lofruddio Ceiran Evans, 18 oed, yn dilyn gwrthdrawiad angheuol rhwng car a beic yng Ngorseinon fis diwethaf.
Ddydd Mercher, cafodd Elliot Truelove, 33 oed o West Cross, Abertawe, a Liam Thomas, 18 oed o Dreforys, eu cyhuddo o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Roedd Tyler Ford, 18 oed o Dreforys, eisoes wedi’i gyhuddo o lofruddio Ceiran ac o geisio llofruddio ail ddioddefwr.
Mae tri dyn bellach wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Pen Cae Crwn am tua 13.00 ddydd Iau, 9 Gorffennaf, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng car a beic oddi ar y ffordd.
Bu farw Ceiran, o Gorseinon, yn y fan a’r lle. Cafodd dyn arall, 19 oed, ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau.
Cafodd pump o ddynion eu harestio yn ystod camau cynnar yr ymchwiliad.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Danielle Thorne o’r Tîm Ymchwilio i Droseddau Difrifol: “Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth i ddigwyddiad sydd wedi bod yn hynod drawmatig i deulu Ceiran Evans ac i gymuned ehangach Gorseinon.
“Mae’r cyhuddiadau ychwanegol hyn yn ddiweddariad arwyddocaol arall wrth i ni geisio deall yr amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth Ceiran.
“Rydym unwaith eto yn diolch i’r gymuned leol am eu cymorth gyda’r ymchwiliad.”