O Texas i Wrecsam: Codi pac a symud i fyw oherwydd y pêl droed
Mae gŵr a gwraig o Texas yn America wedi penderfynu hel eu pac a symud i fyw i Wrecsam ar ôl dod yn gefnogwyr brwd o’r clwb pêl-droed lleol.
Fe ddechreuodd Jeff Ivey, 62 oed, a’i wraig Janice gymryd diddordeb yng nghlwb Wrecsam ar ôl gweld y rhaglen ddogfen ‘Welcome to Wrexham’, meddai’r ddau wrth The Daily Star.
Mae’r rhaglen deledu yn dilyn hynt a helynt y clwb pêl-droed ar ôl i’r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu’r clwb.
Brawd Jeff wnaeth sôn wrtho gyntaf am y rhaglen. Ond cysylltu â chanwr y band lleol, The Declan Swans, Michael ‘Scoot’ Hett, wnaeth annog Jeff i ymweld â’r ddinas am y tro cyntaf.
Mae’r grŵp yn ymddangos yn y rhaglen.
“Fe wnes i archebu cwpl o grysau-T y band, a phan gyrhaeddodd y pecyn dim ond un oedd ynddo,” meddai Jeff.
“Fe wnaethon nhw anfon un arall, ac fe wnaethon ni ddal ati i e-bostio. Yna dywedodd Scoot, ‘Dylech chi ddod draw.’”
Fe aeth Jeff i’w gêm gyntaf ar y Cae Ras yn 2024. Roedd yna “deimlad o gymuned” yn Wrecsam, meddai.
O’r foment honno ymlaen, roedd y cwpl eisiau dysgu mwy am Wrecsam a’r clwb pêl-droed. Mae Jeff a Janice yn dod yn wreiddiol o drefi lofaol yn Pennsylvania ac roedden nhw’n gallu uniaethu â hanes gogledd ddwyrain Cymru.
‘Bywyd yn antur’
Fe ddaethon nhw ar sawl ymweliad i’r dref a dechrau trafod y posibilrwydd o symud yno i fyw.
“Doedden ni ddim eisiau aros lle roedden ni. Fe ddechreuon ni drafod syniadau ac fe ddywedais i, ‘Beth am Wrecsam?’” meddai Jeff.
“Roedd ein plant i gyd o blaid y syniad - maen nhw i gyd yn hŷn ac wedi gadael cartref. Fe benderfynon ni fod bywyd yn antur, felly beth am fynd amdani?”
Mae Jeff erbyn hyn wedi dechrau cael gwersi Cymraeg ar-lein. Ei obaith yn y dyfodol yw gallu cael “sgwrs fach yn Gymraeg”.
Mae’r cwpl hefyd wedi bod yn gwirfoddoli yn y gymuned. Erbyn hyn, mae Jeff wedi sicrhau dinasyddiaeth Brydeinig gan fod ei fam-gu yn dod o’r Alban.
Dyw pawb ddim yn deall yr apêl o symud, meddai.
“Mae’n ddoniol achos dyw llawer o Americanwyr ddim yn gwybod lle mae Cymru. Maen nhw’n meddwl bod Cymru yn rhan o Loegr.
"Dwi ddim yn nabod unrhyw Americanwyr eraill sydd wedi symud yma eto,” meddai.
Ond beth bynnag fydd tynged y clwb pêl-droed, mae Jeff a Janice yn benderfynol mai Wrecsam fydd eu cartref newydd.
“Hyd yn oed os bydd Wrecsam yn disgyn o’r gynghrair, dyma fy nhîm i a dwi’n mynd i’w cefnogi. Dwi’n gyffrous ynglŷn â’r cyfeiriad mae Wrecsam yn mynd iddo fel cymuned.”
Llun: Jeff Ivey