Vaughan Roderick: 'Hollt' mewn agweddau ASau gwrywaidd a benywaidd Reform
Mae Golygydd Materion Cymreig y BBC wedi awgrymu bod gwahaniaeth rhwng agweddau aelodau gwrywaidd a benywaidd ASau Reform at wleidyddiaeth yn y Senedd.
Wrth siarad mewn sesiwn ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Vaughan Roderick fod aelodau benywaidd grŵp Reform yn awyddus i drafod problemau Cymru mewn ffordd adeiladol.
Ond wrth gyfeirio at aelodau gwrywaidd y blaid, dywedodd nad oedden nhw am drafod “dim byd ond mewnfudo â phobl Traws”.
Mae plaid Reform wedi ymateb, drwy ddisgrifio sylwadau Vaughan Roderick fel rhai "rhyfedd".
Dywedodd Mr Roderick hefyd ei fod o’r farn bod y menywod yn y grŵp yn deall meysydd polisi’r Senedd:
"Fi yn synhwyro fod 'na hollt oddi fewn i Reform, ac yn ddigon rhyfedd ar y cyfan y menywod sydd yno fel Aelodau Senedd Cymru Reform yn tueddu i fod yn bobl sydd eisiau cael trafodaeth adeiladol, yn dueddol o fod yn bobl sy'n deall polisi ac yn y blaen.
"Ar y llaw arall mae 'na garfan arall oddi fewn i'r blaid honno, gwrywaidd yn bennaf, sydd ddim eisiau trafod dim byd, mae'n ymddangos i fi, ond mewnfudo a phobl Traws," ychwanegodd.
Gwrthblaid
Daeth Reform UK yn brif wrthblaid y Senedd yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, gan ennill 34 o’r 96 sedd, gyda 29.3% o’r bleidlais.
Plaid Cymru enillodd y nifer fwyaf o seddi, gyda 43, tra bod Llafur wedi ennill naw, y Ceidwadwyr saith, y Gwyrddion yn cael dwy sedd, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio un yn unig.
Y cyn-gynghorydd sir ar gyngor Barnet yn Llundain, Dan Thomas yw arweinydd grŵp Reform UK Cymru yn y Senedd.
Mae ASau benywaidd Reform yn Senedd Cymru yn cynnwys Claire Johnson-Wood, Claire Archibald, Catherine Cullen, Helen Jenner, Louise Emery a Sarah Edwards.
Mae mewnfudo yn fater sydd wedi cael lle amlwg ym mholisïau Reform ar lefel y DU, er nad yw polisi mewnfudo wedi’i ddatganoli i’r Senedd.
Mae aelodau Reform yn y Senedd hefyd wedi codi materion yn ymwneud â rhyw biolegol a hawliau pobl trawsryweddol ers yr etholiad, gan gynnwys mewn dadl yn ystod Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK mewn ymateb i sylwadau Vaughan Roderick: “Rydym wedi ein syfrdanu gan yr honiad celwyddog a rhyfedd hwn gan sylwebydd sy’n cael ei ariannu gan y trethdalwr.
“Mae ein haelodau o’r Senedd yn ymyrryd ar ystod eang o faterion, boed yn ymwneud ag etholaethau unigol neu â Chymru gyfan.
“Nid yw’r un o’r materion hyn yn cael eu trin ar sail rhyw, ac mae’r ffaith y byddai’r BBC yn awgrymu hynny yn arwydd o ddirywiad deallusol y gorfforaeth.”
Llun: BBC