Pa fardd enillodd pa Gadair?

Cadair

A hithau yn ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol, diwrnod Cadeirio'r prifardd buddugol - rydym wedi twrio drwy luniau rhai o'r cadeiriau sydd wedi eu hennill yn y gorffennol.

Ydych chi'n gallu dyfalu pa Brifardd enillodd y cadeiriau isod? (atebion ar waelod y dudalen)

Image
cadair 1
  1. Roedd enillydd y gadair hon yn Wrecsam 2011 yn cael ei ystyried ymysg yr ieuengaf i ennill Cadair yr Eisteddfod ar y pryd.
Image
cadair 2

2. Fe gipiodd y bardd yma y gadair, ychydig wythnosau yn dilyn llwyddiant tîm Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016.

Image
cadair 3

3. Fe aeth enillydd y gadair wahanol hon ymlaen i fod yn Archdderwydd.

Image
cadair 4

4. Nid dyma'r gadair gyntaf i un, o sawl Prifardd o fewn yr un teulu agos. 

Image
cadair 5

5. Yn anffodus, ni chafodd y Prifardd yma'r fraint o eistedd yn ei gadair.

Image
cadair 5

6. Roedd yn rhaid i'r Prifardd yma aros am dros ddwy flynedd cyn cael eistedd yn ei gadair oherwydd pandemig y coronafeirws.

Image
cadair 6

7. Ychydig iawn o Brifeirdd sydd wedi ennill mwy 'na dwy gadair.

Image
cadair

8. Roedd y Prifardd poblogaidd yma wedi ysgrifennu awdl fel coffâd am ei ddiweddar dad.

Image
cadair 9

9. Fe fyddai'r Prifardd yma yn gallu cynganeddu mewn sawl iaith, yn cynnwys Llydaweg.

ATEBION:

  1. Y Prifardd Rhys Iorwerth (Wrecsam, 2011)
  2. Y Prifardd Aneirun Karadog (Y Fenni, 2016)
  3. Y cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd (Tŷ Ddewi, 2003)
  4. Y Prifardd T. James Jones (Jim Parc Nest, Llanrwst, 2019)
  5. Y Prifardd Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn, Penbedw, 1917)
  6. Y Prifardd Llŷr Gwyn Lewis (Tregaron, 2022)
  7. Y Prifardd Alan Llwyd (Boduan, 2023)
  8. Y Prifardd Carwyn Eckley (Pontypridd, 2024)
  9. Y Prifardd Twm Morys (Meifod, 2003)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.