Carcharu dyn o'r gogledd ar ôl iddo honni bod car trydan allan o reolaeth ar draffyrdd

Nathan Owen

Mae dyn o Brestatyn a yrrodd ei gar Jaguar trydan ar gyflymder uchel ar draffyrdd – gan honni na fyddai’r car yn brecio mewn ymgais “wirion a brawychus” i osgoi talu am gyllid y car – wedi cael ei garcharu am bedair blynedd a thri mis.

Fe wnaeth car Nathan Owen, 33 oed, wrthdaro â char heddlu 31 gwaith wrth i swyddogion geisio ei atal.

Fe glywodd Llys y Goron Lerpwl ddydd Llun ei fod wedi ffonio’r gwasanaethau brys i ddweud bod ei gerbyd yn cyflymu ac allan o’i reolaeth.

Fe yrrodd ar gyflymder o hyd at 86mya ar ffyrdd yr M58, M57 a’r M62  ar Lannau Mersi am tua 35 munud, dros bellter o tua 38 milltir, yn ystod y digwyddiad ar 6 Mawrth 2024.

Wrth ddedfrydu Owen, dywedodd y Barnwr Ian Unsworth KC: “Fe wnaethoch chi gychwyn ar gwrs o ymddygiad a arweiniodd at ddefnyddio adnoddau sylweddol ar gyfer ymgyrch traffig yr heddlu, gan achosi pryder gwirioneddol i’r cyhoedd yn ogystal â cholled ac aflonyddwch sylweddol iawn i eraill.”

Dywedodd y barnwr fod swyddogion heddlu wedi rhoi eu hunain mewn perygl oherwydd eu bod yn credu eu bod yn delio ag argyfwng gwirioneddol.Gan annerch Owen, ychwanegodd: “Chi, yn y cyfamser, a geisiodd elwa ar gelwydd.”

Dywedodd Eric Lamb, ar ran yr erlyniad, fod Owen wedi ymrwymo i gytundeb cyllid ym mis Medi 2023 ar gyfer y Jaguar I-Pace.

Clywodd y llys fod ganddo "anawsterau ariannol" ac roedd tu ôl â'i daliadau i CA Auto Finance erbyn mis Mawrth y flwyddyn ganlynol, gyda thua £5,000 yn weddill i'w dalu.

Ar ddiwrnod y digwyddiad, ffoniodd y cwmni benthyca Plata i holi a fyddai modd iddo fenthyca mwy ar ben y £3,000 roedd eisoes wedi'i fenthyca ganddynt, ond fe gafodd ei wrthod.

Bum munud yn ddiweddarach, ychydig ar ôl 14:00, ffoniodd 999 gan honni nad oedd breciau ei gar yn gweithio ac nad oedd ganddo unrhyw reolaeth dros y cerbyd, a oedd, yn ôl fe, yn cyflymu.

Dywedodd Mr Lamb: "Yn wir, roedd ei gar yn llonydd ar adeg y galwad hwnnw."

Gyrru'n beryglus

Bu’n rhaid i gerbydau'r heddlu amgylchynu'r car – a oedd ar y pryd yn teithio ar gyflymder o hyd at 86mya – er mwyn cadw teithwyr eraill oddi ar ffordd yn ddiogel, cyn iddo ddod i stop ar yr M62 ger Warrington, Sir Gaer.

Dangosodd ymchwiliadau nad oedd unrhyw nam ar y car, yn ôl y llys.

Dywedodd Mr Lamb: "Roedd wedi ffugio'r digwyddiadau er mwyn gallu cael gwared ar y cerbyd.

"Roedd ganddo reolaeth lawn dros y cerbyd, ac wrth gael rheolaeth lawn dros y cerbyd, teithiodd ar gyflymder gormodol ac eithafol."

Clywodd y llys y bu’n rhaid cau traffyrdd oherwydd y digwyddiad.Cysylltodd Owen â'r cwmni cyllid 40 munud ar ôl y digwyddiad.

Yn ddiweddarach, talwyd £300 iddo gan The Sun a £500 gan y Daily Mail am ei stori, yn ôl y llys.

Mewn datganiad, dywedodd Murray Paul, o Jaguar Land Rover UK, fod y cwmni wedi gwario £50 miliwn ychwanegol ar farchnata i geisio gwrthdroi’r cyhoeddusrwydd anffafriol a ddeilliodd o'r honiadau ffug – honiadau a arweiniodd, yn ôl y cwmni, at 180 o eitemau yn y cyfryngau yn beirniadu'r cwmni.

Dywedodd Daniel Travers, ar ran yr amddiffyniad, fod gweithredoedd Owen yn "wirion dros ben ac yn codi braw".

Dywedodd fod Owen – nad oedd ganddo unrhyw euogfarnau blaenorol ac a oedd yn dod o "deulu llwyddiannus a sefydlog" – wedi cael ei ddisgrifio gan ei dad fel cymeriad tebyg i Walter Mitty sy'n "byw mewn byd ffantasi".Ychwanegodd: "Roedd ganddo syniadau mawr, ac aeth pethau o'i le."

Roedd Owen ywedi pledio'n euog i yrru'n beryglus a dau gyhuddiad o dwyll ym mis Mehefin.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o bum mlynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Michael Doyle: "Roedd yn amlwg o'n hymchwiliadau ei fod yn rheoli ei gerbyd yn llwyr drwy gydol y digwyddiad.

"Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, roedd gweithwyr ar ysgwydd galed y draffordd ac yn amlwg fe wnaeth eu rhoi hwy a defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl gyda'i ymddygiad diofal."

Cafodd cyhuddiad o achosi niwsans cyhoeddus ei gadw ar y ffeil.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.