Elfyn Evans yn gorffen Rali’r Ffindir yn y trydydd safle
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen Rali’r Ffindir yn y trydydd safle ar ddiwedd diwrnod ola’r cystadlu ddydd Sul.
Roedd Evans yn yr ail safle tu ôl i Sébastien Ogier o Ffrainc ar ddiwedd ail ddiwrnod y rali nos Wener.
Ond ar yr ail gymal ddydd Sadwrn fe wnaeth y car droi drosodd sawl gwaith a bu’n rhaid i Evans gael cymorth y cefnogwyr i gael ei gar nôl ar y ffordd.
Fe gollodd dipyn o amser gan gwympo i’r bumed safle.
Ond fe lwyddodd i ddringo i’r trydydd safle erbyn diwedd cymalau ddydd Sadwrn ac ef oedd y cyflymaf ar gymal ola’r dydd.
Bu'n rhaid i Ogier adael y rali ar ôl i'w gar adael y ffordd ar gymal 17, gyda Sami Pajari o'r Ffindir yn arwain ar ôl hynny gan ennill y rali yn y pen draw.
Mae’r safle ar y podiwm yn golygu fod Evans yn ymestyn ei flaenoriaeth ym Mhencampwriaeth y Byd i 30 pwynt dros Pajari.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2083875009060065714?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Etweet
Llun: X/Elfyn Evans