Gemau'r Gymanwlad: Finucane yn anelu i osod record yn Glasgow
Mae’r seiclwraig o Gaerfyrddin Emma Finucane yn anelu i greu record newydd ar ddiwrnod ola' Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow brynhawn dydd Sul.
Mae Finucane eisoes wedi sicrhau tair medal aur yn y gemau eleni - y Gymraes gyntaf erioed i gyflawni'r gamp.
Mae ganddi hi gyfle i ennill un arall yn Felodrom Syr Chris Hoy yn ras y keirin.
Fe fydd Anna Morris hefyd yn gobeithio ychwanegu at ei chyfanswm o ddwy fedal aur ac un arian yn y ras ddileu (elimination race). Mae Jess Roberts a Carys Lloyd hefyd yn cystadlu yn y ras honno.
Os fydd Finucane yn llwyddo yna fe fydd yn gosod record am nifer y medalau i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
Ar hyn o bryd, mae'r bencampwraig Olympaidd â phum medal - yn cynnwys y ddwy fedal efydd o'r gemau yn Birmingham yn 2022, a'r tair enillwyd eleni.
Fe wnaeth Olivia Breen osod record newydd ddeuddydd yn ôl gyda chyfanswm o bum medal (tair aur, un arian ac un efydd) ar ei phedwerydd ymddangosiad dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
Mae Ollie Barratt a Josh Whitehouse yn anelu am fedalau hefyd yn y jiwdo.
Ar ddiwedd y cystadlu ddydd Sadwrn, roedd gan Gymru gyfanswm o 30 medal (8 aur, 10 arian a 12 efydd), dwy yn well na Birmingham bedair blynedd yn ôl , er bod yna llai o gystadlaethau yn Glasgow.
Llun: Tîm Cymru