Cau Pont y Borth oherwydd ‘digwyddiad heddlu’

Pont y Borth wedi cau

Mae Pont y Borth rhwng Gwynedd a Môn wedi gorfod cau fore Sul oherwydd “digwyddiad heddlu”.

Dywedodd asiantaeth Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth: “Oherwydd digwyddiad heddlu mae’n rhaid cau’r ffordd. 

“Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy’n saff i wneud hynny."

Mae’r asiantaeth yn gofyn i deithwyr ddefnyddio’r A55 Pont Britannia yn y cyfamser.

Bu’n rhaid cau’r bont ddechrau mis Gorffennaf ar ôl i gerbyd a oedd dros y terfyn pwysau ei chroesi.

Bu’n rhaid i’r bont gau sawl gwaith ddiwedd mis Mai hefyd ar ôl i gerbydau a oedd dros y terfyn pwysau ei chroesi, gan gynnwys ddwywaith yn ystod Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn.

Cafodd goleuadau traffig dros dro eu gosod ar Bont y Borth am gyfnod yn ystod yr Eisteddfod er mwyn atal cerbydau rhy drwm rhag ei chroesi.

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, ar ôl hynny fod y problemau yn “annerbyniol” a bod pobl Ynys Môn “wedi’u gadael i lawr yn rhy hir”.

Ar y pryd, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, fod y cyfyngiadau diweddar wedi bod yn “hynod rwystredig”.

“Mae pobl Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi cael eu siomi ers gormod o amser gan annibynadwyedd croesfannau’r Fenai,” meddai.

Dywedodd fod gwaith eisoes wedi dechrau o fewn y Llywodraeth i sicrhau mesurau tymor byr ac atebion tymor hir i gryfhau gwytnwch y croesfannau dros y Fenai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.