Codi arian ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las wedi bod yn 'therapi' i Eurfyl Lewis ar ôl colli ei wraig
Mae is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi dweud bod cyflawni'r rôl wedi bod yn "therapi" iddo yn dilyn marwolaeth ei wraig y llynedd.
Mae Eurfyl Lewis, o Langlydwen, Sir Gaerfyrddin, wedi bod wrth galon ymgyrch codi arian yr Eisteddfod yn Llantwd eleni, gan sefydlu 26 o'r 42 pwyllgor apêl.
Bydd yn cael ei dderbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd ar faes y Brifwyl eleni a hynny i gydnabod ei wasanaeth i'w gymuned a'r Gymraeg.
Bu farw ei wraig, Jill, a oedd yn gyn-lywydd ac yn gyn-is-lywydd cenedlaethol Merched y Wawr, yn 60 oed ym mis Mai’r llynedd.
Dywedodd Mr Lewis fod cadw'n brysur a bod yng nghwmni pobl wedi bod yn allweddol iddo ers hynny.
"Dwi wedi twlu popeth mewn iddo fe, mae wedi bod yn therapi i fi," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi'n nabod lot o bobl mewn galar ac yn y blaen lle maen nhw'n dechrau eistedd gartref, ac yna ti'n dechrau eistedd lawr a hel meddyliau.
"Mae galar gyda fi hyd heddiw. Dwi 'di dechrau mynd yn emosiynol fy hunan yn siarad ambell waith, ond dwi'n gallu bod yn iawn.
"Mae'n rhaid i fi fod yng nghwmni pobl... Mae pobl yn gefn i ti, ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn."
'Cymuned yw popeth i mi'
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Mr Lewis wedi teithio ar draws dalgylch y Brifwyl - Sir Benfro, gorllewin Sir Gaerfyrddin a de Ceredigion - yn annog cymunedau i drefnu digwyddiadau a chodi arian.
"Bues i'n swyddog datblygu gyda’r Urdd am gyfnod, ac wedi dod i adnabod lot o bobl," meddai.
"Felly mae wedi bod yn hyfryd cael teithio ar draws y dalgylch a gweld y gefnogaeth."
Dywedodd Mr Lewis fod yr Eisteddfod wedi gosod targed codi arian o £400,000 ar gyfer yr ŵyl.
"Mae hwnna'n darged eitha heriol, ond roedd y bwrlwm a'r brwdfrydedd ym mhob ardal yn hollol heintus," meddai.
"Fy swyddogaeth pennaf yw mynd o gwmpas yn annog ac yn ysbrydoli pobl i fwrw ati i drefnu gweithgareddau, ac wrth gwrs mae codi arian yn bwysig.
"Ond nid codi arian yn unig sy'n bwysig. Mae tynnu cymunedau at ei gilydd a chynnal gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg yr un mor werthfawr.
"Mae hynny mor bwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni, yn enwedig ers Covid."
Erbyn hyn mae £530,000 yn y coffrau ar gyfer yr Eisteddfod - y swm uchaf erioed.
Dros y blynyddoedd, mae Mr Lewis hefyd wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer achosion elusennol.
Mae wedi trefnu nifer o deithiau noddedig, gan gynnwys taith feic o Land's End i John O'Groats ar gyfer Ymchwil Canser Cymru a Hosbis Tŷ Hafan.
Mae hefyd wedi gwasanaethu nifer o sefydliadau cymunedol, gan gynnwys Capel y Login ger Llanglydwen a Chymdeithas yr Hoelion Wyth.
Ar hyn o bryd mae'n gadeirydd ac yn olygydd papur bro Y Cardi Bach, ac yn gyd-olygydd cylchgrawn Cristion gyda Siân-Elin Thomas.
A'r her codi arian nesaf? Codi cerflun efydd o arweinydd Merched Beca, Twm Carnabwth, ger Caffi Beca yn Efailwen.
Mae Mr Lewis yn dweud fod pobl yn tynnu ei goes nad yw byth adref.
"Nath Jill wneud i mi addo iddi y byddwn i'n cadw i wneud y pethe oeddwn i'n neud, so ma hwnna'n reswm arall dros wneud y pethe 'ma," meddai.
"Dwi'n freintiedig iawn bo' fi wedi cael fy ngeni a'm magu mewn cymuned mor arbennig a chefnogol.
"Cymuned yw popeth i mi."