Pêl-droed: Y Seintiau Newydd yn cychwyn eu hamddiffyniad o deitl y Cymru Premier
Cei Connah v Caernarfon | Dydd Sul – 14:30
Dau dîm sydd heb gael fawr o orffwys dros yr haf yw Cei Connah a Chaernarfon a fuodd yn cystadlu yn rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA ym mis Gorffennaf.
Gorffennodd Cei Connah yn ail yn nhymor 2025/26, ac fe lwyddodd Caernarfon i ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ond roedd y canlyniadau’n Ewrop yn siomedig iawn gyda Chaernarfon yn colli o 10-0 dros ddau gymal yn erbyn Levadia Tallinn, a Cei Connah yn colli 3-2 dros ddau gymal yn erbyn Ballkani o Cosofo.
Er y colledion, bydd y ddau glwb yn ysu am gyfle arall i gyrraedd Ewrop, gan anelu i wthio’r Seintiau Newydd am y bencampwriaeth y tymor hwn.
Mae hi wedi bod yn haf o newidiadau mawr yng Nghei Connah gyda 15 chwaraewr yn gadael wrth i John Disney barhau i osod stamp ei hun ar y garfan.
Y golled fwyaf i Gei Connah o bosib yw Rhys Hughes, sydd wedi ymuno â’r Seintiau Newydd ar ôl sgorio 30 o goliau cynghrair mewn dau dymor i Gei Connah (+ creu 16) gan ennill gwobr Chwaraewr y Tymor yn 2024/25.
Mae Noah Edwards wedi gadael y Nomadiaid i ail-ymuno â Chaernarfon, ac mae Ben Nash a Chris Marriott hefyd wedi gwneud y symudiad i’r Oval.
Fe wnaeth y clybiau gyfarfod bedair gwaith y tymor diwethaf ac roedd y record benben yn hafal gyda’r ddau dîm yn ennill unwaith, colli unwaith a chael dwy gêm gyfartal.
Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | Dydd Sul – 14:30
Gyda dim ond un fuddugoliaeth (mewn 90 munud) yn eu 15 gêm gystadleuol ddiwethaf, bydd Pen-y-bont yn benderfynol o ddechrau’r tymor newydd ar nodyn fwy cadarnhaol.
Aeth Pen-y-bont ar rediad echrydus ar ddiwedd y tymor diwethaf cyn curo Hwlffordd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle a sicrhau eu lle’n Ewrop.
Ond methiant oedd yr ymgyrch Ewropeaidd, wrth i dîm Rhys Griffiths golli yn erbyn Santa Coloma o Andorra am yr eildro mewn tair blynedd.
Ar ôl ennill pencampwriaeth y Cymru Premier JD am y 18fed tro yn eu hanes, ac am y pumed tymor yn olynol, bydd cewri Croesoswallt yn ffefrynnau clir i godi’r tlws unwaith eto’r tymor yma.
Enillodd Y Seintiau Newydd eu pedair gornest yn erbyn Pen-y-bont y tymor diwethaf gan sgorio cyfanswm o 16 o goliau (4 gôl y gêm).
Fe gafodd blaenwr y Seintiau, Jordan Williams dymor arbennig gan gipio hatric o wobrwyon, sef Chwaraewr y Tymor, Gôl y Tymor a’r Esgid Aur – a daeth pump o’i 26 gôl gynghrair yn erbyn Pen-y-bont.