Aelodau UEFA i gynnal cyfarfod brys i drafod cynlluniau Cwpan y Byd FIFA

Gianni Infantino

Bydd aelodau UEFA yn cynnal cyfarfod brys brynhawn Iau i drafod ei ymateb i gynlluniau dadleuol FIFA a’i lywydd Gianni Infantino i werthu cyfran yng nghystadlaethau Cwpan y Byd.

Mae corff llywodraethu pêl-droed Ewrop wedi beirniadu’r cynlluniau ar ôl dod i’r amlwg fod FIFA wedi anfon llythyr at bob un o’i 211 cymdeithas sy’n aelodau.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Mercher nad oedden nhw eto wedi cael “manlynion llawn” y cynnig gan FIFA ac felly nad oedden nhw am gynnig sylw pellach.

Dyw hi ddim yn hysbys beth yn union fydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod, a fydd yn cael ei gynnal ar-lein.

Yn ôl adroddiadau mae’r llythyr gan FIFA yn rhoi tan 19 Medi i’r cymdeithasau benderfynu a ydyn nhw am dderbyn y cynnig. 

Byddai’r rhai sy’n cytuno yn cael taliad cyntaf o $20 miliwn (£15 miliwn), fel rhan o daliad cychwynnol o $40 miliwn (£30 miliwn).

Mewn datganiad dywedodd UEFA: “Rydyn ni wedi dod i wybod am derfyn amser FIFA i gymdeithasau gefnogi ei gynigion neu golli’r cynnig o daliad untro.

“Mae hyn yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y cynllun.”

Mae un o aelodau UEFA wedi dweud ei fod yn cytuno’n fras â chynigion Infantino.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed y Weriniaeth Tsiec, David Trunda: “Rydyn ni’n gallu gweld y manteision ymarferol i bêl-droed Tsiec.”

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad oedden nhw “wedi cael unrhyw fanylion o sylwedd gan FIFA eto am y cynigion sydd wedi dod i’r amlwg”.

“O ganlyniad, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn pryderu bod materion o’r fath wedi dod yn gyhoeddus cyn cael eu rhannu â’r cymdeithasau sy’n aelodau o FIFA.

“Byddwn yn aros i gael cynnig llawn FIFA cyn gwneud unrhyw sylwadau pellach am y mater.”

Mae cyrff pêl-droed Asia, De America, Gogledd America a Chanolbarth America hefyd wedi mynegi pryderon tebyg i UEFA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.